Arbenigwyr yn archwilio risgiau eistedd i lawr yn y gwaith
1 Medi 2014
Bydd arbenigwyr iechyd cyhoeddus ac ymarferwyr iechyd galwedigaethol yn ymuno ag academyddion ddydd Iau (18 Medi 2014) i ystyried ffyrdd i fynd i'r afael ag adegau hirfaith wrth ddesg, sy'n gysylltiedig â chynnydd yn y risg o ddatblygu diabetes math 2 a chlefyd y galon.
Mae oddeutu hanner poblogaeth weithio'r DU mewn galwedigaethau eisteddog – yn fwyaf nodedig, swyddi mewn swyddfeydd, lle treulir mwy na 75% o'r diwrnod gweithio yn eistedd.
Mae lleihau amser eisteddog yn un o brif flaenoriaethau iechyd cyhoeddus yn y DU, ac mae canllawiau iechyd yn argymell y dylai pobl o bob oed osgoi bod yn eisteddog am gyfnodau hirfaith.
Dywedodd y trefnydd, Dr Jemma Hawkins, arbenigwraig mewn ymchwil iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd: "Eistedd yn y gwaith yw prif ffynhonnell ymddygiad eisteddog ar gyfer nifer o oedolion oedran gweithio."
Yn ystod y seminar, sy'n gydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru o fewn Rhwydwaith Ymchwil Gwella Iechyd y Cyhoedd, bydd siaradwyr a'r sawl fydd yn mynychu yn trafod y dystiolaeth bresennol ac yn ystyried ffyrdd i leihau ymddygiad eisteddog yn y gweithle.
Bydd sefydliadau yng Nghymru sydd eisoes yn cymryd camau i fynd i'r adael ag ymddygiad eisteddog yn y gwaith yn bresennol yn y seminar.
Dywedodd Paul Dunning, Therapydd Galwedigaethol gyda Lles drwy Waith: "Mae Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion sy'n gweithio i wasanaeth Lles drwy Waith Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, yn hyrwyddo gweithgareddau iechyd a lles cadarnhaol yn rheolaidd, sy'n cynnwys cymryd seibiant rheolaidd i gyflawni gweithgareddau cerdded ac ymestyn i gynorthwyo i reoli problemau iechyd corfforol a helpu pobl i ystyried ffyrdd gwahanol o 'wneud gwaith' e.e. cyfarfodydd wrth gerdded, cyfarfodydd wrth sefyll a.y.y.b."
Dywedodd Emma Williams, Rheolwr Datblygu gyda Cymorth i Fenywod RhCT: "Mae ein sefydliad yn hyrwyddo cerdded i siarad â chydweithwyr yn hytrach nag anfon neges e-bost, ffonio a.y.y.b., a sefyll i fyny a symud o gwmpas yn aml."
Dywedodd Dr Hawkins: "Byddwn ni hefyd yn annog y cynrychiolwyr i gymryd seibiant rheolaidd yn ystod eu hamser eisteddog yn y seminar, er mwyn sicrhau ein bod ni gyd yn gwneud beth rydym ni'n ei ddweud!"
Gobeithir y bydd y seminar yn helpu llunwyr polisïau i ddod o hyd i ffyrdd newydd i leihau ymddygiad eisteddol ac yn arwain at gydweithrediadau ymchwil newydd.