Cefnogi myfyrwyr sy'n dioddef trais rhywiol a cham-drin domestig
16 Medi 2016
Mae partneriaeth TALK yn cael ei lansio heddiw. Partneriaeth yw hon rhwng y Brifysgol ag elusen Atal y Fro, a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddau, a'i nod yw amlygu a chefnogi myfyrwyr sydd yn/wedi dioddef trais rhywiol a cham-drin domestig.
Mae acronym Saesneg ‘TALK’ yn golygu Dweud, Cynghori, Gwrando a Chadw'n Ddiogel. Ei nod yw mynd i'r afael â thrais rhywiol a cham-drin domestig drwy amlygu a chamu i mewn yn gynnar; cynyddu hyder dioddefwyr i roi gwybod, ac annog camau atal.
Mae Atal y Fro wedi cyflwyno cynghorydd annibynnol fydd yn ddolen gyfeirio benodol i ddioddefwyr trais rhywiol a cham-drin domestig. Bydd hefyd yn rhoi hyfforddiant i diwtoriaid personol a staff Cwnsela a Lles, Undeb y Myfyrwyr a'r Gwasanaethau Diogelwch.
Bydd y Cynghorydd Annibynnol yn gweithio gyda grwpiau staff a myfyrwyr i wella eu dealltwriaeth o drais rhywiol a cham-drin domestig, yn ogystal â phwysigrwydd herio a rhoi gwybod am ymddygiad amhriodol.
Dywedodd Ben Lewis, Cyfarwyddwr Cefnogi a Lles Myfyrwyr: "Efallai mai Tiwtor myfyriwr neu aelod o staff sydd â'r cyfle gorau i sylwi ar newid mewn ymddygiad myfyriwr o ganlyniad i ddioddef trais rhywiol neu gam-drin domestig. Rydym eisoes yn gweld sut mae ein staff wedi elwa ar yr hyfforddiant y maen nhw wedi'i gael.
"Mae gallu cael cynghorydd annibynnol a phwrpasol y gall myfyriwr gyfeirio ato, yn amhrisiadwy. Drwy weithio gyda'n gilydd gallwn sicrhau bod unrhyw fyfyriwr sydd wedi'i effeithio yn cael y gofal a'r gefnogaeth orau."
Dywedodd Kay Quinn, Cyfarwyddwr Atal y Fro: "Rydym yn falch iawn o fod yn symud y prosiect hwn yn ei flaen, a bod mewn sefyllfa i helpu staff a myfyrwyr y Brifysgol i ddeall y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â thrais rhywiol a cham-drin domestig, a chefnogi dioddefwyr.
Dywedodd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddau De Cymru "Mae ein myfyrwyr yn ne Cymru yn gymuned unigryw. Mae'r rhan fwyaf yn ifanc, gyda llawer yn byw oddi cartref am y tro cyntaf. Maent yn aml yn agored i niwed gan nad yw'r rhai sy'n eu cefnogi fel arfer, fel eu rheini neu eu ffrindiau, o'u cwmpas i wneud hynny.
"Dyma pam ei bod mor bwysig bod cynghorydd arbenigol ac annibynnol ar gael ar gyfer myfyrwyr a staff y Brifysgol fydd yn rhoi hyfforddiant sydd wedi'i dargedu ac yn bwynt cyfeirio penodedig.
Os ydych yn/wedi dioddef trais rhywiol neu gam-drin domestig, siaradwch â'r Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr neu cysylltwch â Julie Grady, Arbenigydd Annibynnol - 07787 508719 neu julieg@atalyfro.org