Ymgais i wella ansawdd dysgu
15 Medi 2016
Mae Prifysgol Caerdydd yn cefnogi gwaith ymchwil hirdymor uchelgeisiol sy'n ceisio gwella ansawdd dysgu mewn ysgolion yng Nghymru.
Bydd yr astudiaeth o ddisgyblion mewn ysgolion ledled Cymru yn elwa ar grant o £215,000 i ddatblygu gwaith pwysig a ddechreuodd yn 2012.
Y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) fydd yn cynnal y gwaith ymchwil, sy'n cynnwys prifysgolion Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, De Cymru ac Abertawe.
Bydd y data a gesglir yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ymchwilwyr academaidd, llunwyr polisïau ac athrawon.
Dywedodd yr Athro Sally Power, Cyd-gyfarwyddwr, WISERD: “Rydym yn gwybod bod diffyg adnoddau difrifol o ran gwaith ymchwil ym maes addysg yng Nghymru, sy'n arbennig o broblematig o ystyried mai hwn yw un o'r prif feysydd polisi cymdeithasol sydd wedi eu datganoli i Gymru.
"Rydym am sicrhau bod data dienw ar gael i bawb sydd â diddordeb ym maes addysg, plentyndod a datganoli.
"Bydd y data'n ddefnyddiol nid yn unig i ymchwilwyr, ond hefyd i lunwyr polisïau'r llywodraeth a'r sawl sy'n addysgu, wrth i bob un ohonom geisio cyfrannu at wella addysgu a dysgu yng Nghymru.
"Gyda lwc, bydd yr ymchwil yn helpu i lywio penderfyniadau ynglŷn ag addysg yng Nghymru, a allai ddwyn buddiannau sylweddol i'n disgyblion a'n hysgolion."
Mae'r arian gan Brifysgol Caerdydd yn dilyn grant £1m yn 2012 gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i wella'r adnoddau sydd ar gael yng Nghymru i gynnal gwaith ymchwil addysgol o safon, ac i wella ansawdd dysgu yng Nghymru.
Hyd yma, mae dros 1,200 o ddisgyblion mewn mwy na 30 o ysgolion ledled Cymru wedi cymryd rhan yn y gwaith ymchwil, a elwir yn Astudiaeth Aml-Garfan WISERDEducation (WMCS).
Astudiaeth hydredol yw hon, sy'n golygu ei bod yn olrhain sampl o ddisgyblion ar wahanol adegau. Hyd yn hyn, cafwyd pedair ymgyrch flynyddol i gasglu data o bedair carfan gyda disgyblion wyth, 10, 12 a 14 oed.
Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: "Rydym yn falch o'r gefnogaeth yr ydym wedi'i rhoi ers tro i waith ymchwil addysgol rhagorol.
"Mae datblygu'r adnoddau i gynnal gwaith ymchwil addysgol a fydd yn llywio polisïau a llwyddiannau mewn ysgolion yn y dyfodol yn bwysig i'r genedl ac i genedlaethau'r dyfodol, ac mae hyn yn tanlinellu ymrwymiad WISERDEducation i wella dysgu a safonau.
"Mae'r astudiaeth fawr hon yn parhau â'r gwaith a ariannwyd gennym yn 2012, ac edrychwn ymlaen at glywed am ganlyniadau ac effeithiau'r gwaith a wneir yn y dyfodol."
Mae'r ymchwil yn gofyn i blant a phobl ifanc am eu profiadau a'u canfyddiadau wrth iddynt symud ymlaen drwy eu haddysg. Gofynnir iddynt am sut maent yn teimlo am eu hysgolion, eu hunain, eu cymdogaethau, ac am fyw yng Nghymru.
Bydd y grant diweddaraf gan Brifysgol Caerdydd yn galluogi ymchwilwyr WISERD i barhau â'u gwaith ac ychwanegu ato.
"Mae'r grantiau hyn yn dangos bod Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad o ran cydnabod bod buddsoddi yn y math hwn o ddata yn elfen ganolog o allu cenedl i wneud gwaith ymchwil," ychwanegodd yr Athro Power.
"Bydd yn ein galluogi i gynnal tair ymgyrch arall i gasglu data gan ysgolion a disgyblion ledled Cymru, ac i sefydlu labordy data hygyrch y gellir ei rannu ag ymchwilwyr addysg eraill."
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i wella ei hamgylchedd ymchwil yn barhaus.
"Ein nod yw buddsoddi mewn prosiectau sy'n gallu diwallu anghenion nifer sylweddol o ymchwilwyr, prosiectau a fydd yn denu rhagor o gyllid ymchwil allanol, a rhai sy'n debygol o gynhyrchu canlyniadau ac effeithiau o ansawdd da, ynghyd â buddiannau i'r cyhoedd.
"Rydym yn hynod falch o gefnogi'r prosiect y mae Sally a Chris o WISERD yn ei arwain, am ei fod yn sicr yn bodloni'r meini prawf llym hynny."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: “Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad hwn. Mae casglu barn plant a phobl ifanc yn bwysig i’n helpu ni i ddatblygu polisïau a gwasanaethau yng Nghymru sy’n diwallu eu hanghenion.
“Weithiau, rydyn ni fel oedolion yn cymryd yn ganiataol ein bod ni’n gwybod beth mae plant a phobl ifanc yn ei feddwl, ond dim ond drwy gynnal gwaith ymchwil sydd wedi’i ddylunio mewn modd effeithiol y gellir darganfod y gwir.”
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i greu a datblygu sylfaen ymchwil gref er mwyn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau sy'n gwella addysg yng Nghymru.
Mewn araith ddiweddar ym Mhrifysgol Caerdydd, dywedodd Ms Williams ei bod am weld mwy o ymchwil i addysg yng Nghymru i helpu i lywio ei phenderfyniadau.