Sut gall microbau'r perfeddyn achosi diabetes math 1
14 Medi 2016
Yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Yale a Phrifysgol Caerdydd, mae bacteria yn y perfeddyn yn gallu achosi diabetes math 1.
Mae'r adroddiad newydd, a gyhoeddwyd yn y Journal of Experimental Medicine, yn datgelu bod grŵp bach o facteria yn y perfeddyn yn gallu ysgogi celloedd T (math o gell gwyn y gwaed) i ymosod ar gelloedd beta sy'n cynhyrchu inswlin yn y pancreas a'u dinistrio.
Cyflwr hunan-imiwn yw diabetes math 1 sy'n golygu bod y system imiwnedd yn ymosod ar feinweoedd iach y corff mewn camgymeriad. O ganlyniad i hynny, nid yw'r pancreas sydd wedi'i ddifrodi yn gallu cynhyrchu inswlin na rheoli faint o glwcos sydd yn y corff.
Mae gwaith ymchwil blaenorol wedi awgrymu efallai mai bacteria sy'n bennaf gyfrifol am y niwed a achosir i'r pancreas. Er mai ar lygod y cynhaliwyd yr astudiaeth newydd, mae'n dangos bod bacteria'r perfeddyn yn ffordd uniongyrchol o ysgogi celloedd sy'n lladd i ymosod ar y celloedd sy'n cynhyrchu inswlin a'u dinistrio. Mae'n ysgogi ymchwil sy'n ystyried rôl bacteria wrth achosi hyn mewn bodau dynol.
Meddai'r Athro Susan Wong, o Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd: "Mae ein hymchwil newydd yn rhoi tystiolaeth gref ar gyfer y ddamcaniaeth y gallai bacteria'r perfeddyn achosi diabetes math 1. Mae hefyd yn dangos sut gall bacteria penodol ysgogi celloedd T sy'n lladd gan arwain at ymosod ar gelloedd sy'n cynhyrchu inswlin a'u dinistrio, gan achosi diabetes yn gyflymach. Gall y canfyddiad hwn gael goblygiadau sylweddol ar gyfer y clefyd cronig hwn, gan ddarparu targed newydd posibl ar gyfer triniaeth ac atal."