Llywodraeth Cymru'n wynebu penderfyniadau anodd gyda'r gyllideb
14 Medi 2016
Yn ôl adroddiad newydd gan Raglen Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, gallai cyllideb Llywodraeth Cymru ostwng 3.2% mewn termau real dros y tair blynedd nesaf, gyda'r toriadau mwyaf yn 2018-19 a 2019-20.
Mae Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, a gynhelir gan Ysgol Busnes Caerdydd, yn cynnig dadansoddiad annibynnol o'r heriau ariannol, economaidd a pholisi sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ymchwilwyr yn Sefydliad yr Astudiaethau Ariannol (IFS) a luniodd yr adroddiad newydd - Welsh Budgetary trade-offs to 2019-20 - a daeth i'r amlwg ynddo hefyd y byddai diogelu cyllideb y GIG yn yr un modd ag a wneir yn Lloegr, yn golygu y byddai gwariant yn cael ei dorri 7.4% ar gyfartaledd mewn termau real.
Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu'r ffaith y bydd gan Lywodraeth Cymru dros £500 miliwn y flwyddyn yn llai o ganlyniad i golli grantiau'r UE os na cheir grantiau ychwanegol gan Lywodraeth Prydain yn eu lle, a bydd hyn yn dyblu faint o'r gyllideb a gaiff ei thorri.
Dywedodd Michael Trickey, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025: "Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu cyfnod anodd o hyd: nid yw'r cyni cyllidol ar ben ac mae'n anochel y bydd toriadau ariannol pellach dros y tair blynedd yn ôl pob golwg. Bydd hyn yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus i newid ar raddfa ehangach a lleihau'r effaith ar gymunedau. Fodd bynnag, bydd cwestiynau mawr yn wynebu gwleidyddion a'r cyhoedd hefyd ynghylch y gwasanaethau yr ydym am eu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. "
Mae'r canfyddiadau pwysig eraill yn yr adroddiad yn cynnwys:
- Byddai cynyddu cyllideb y GIG 2% bob blwyddyn (sy'n llawer is na'r duedd hanesyddol) a rhoi'r un faint o arian ar gyfer cyfrifoldebau addysg a gwasanaethau cymdeithasol y cynghorau yn arwain at doriadau o 18% ar gyfartaledd yn y meysydd sydd heb eu diogelu dros y tair blynedd nesaf ar sail cynlluniau a rhagolygon cyfredol.
- Pe byddai treth incwm yn cael ei datganoli'n rhannol gan gynyddu cyfraddau 1c yn y bunt yn gyffredinol, gallai hynny wneud yn iawn am bron hanner yr holl doriadau i gyllideb Llywodraeth Cymru.
- Fodd bynnag, cafwyd mwy o sôn am dorri trethi yn hytrach na'u codi yn ystod y cyfnod hyd at etholiadau'r Cynulliad yn 2016. Byddai 1c o ostyngiad mewn cyfraddau treth incwm yn cynyddu'r toriadau cyffredinol i'r gyllideb o 3.2% i 4.7% erbyn 2019-20.
Dywedodd Polly Simpson, economegydd ymchwil yn yr IFS ac awdur yr adroddiad: "Mae'r gwaith ymchwil hwn yn amlygu'r penderfyniadau cyllidebol anodd a wynebir gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn diogelu meysydd allweddol o wariant fel iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, byddai angen gwneud toriadau sylweddol mewn meysydd eraill sydd eisoes wedi gorfod ymdopi â saith mlynedd o doriadau mewn termau real.
"Rhaid sylweddoli hefyd na fydd codi'r trethi a reolir gan Lywodraeth Cymru neu'r cynghorau yn fodd o ddatrys y broblem yn ôl pob tebyg. Er enghraifft, hyd yn oed pe byddai cynghorau'n codi eu trethi dros 7% y flwyddyn, byddai rhai ohonynt yn wynebu o leiaf 10% o doriadau o dros y tair blynedd nesaf."
Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried y costau y gallai Llywodraeth Cymru eu hwynebu os na chaiff Cymru ei digolledu am arian o'r UE y mae ar fin ei cholli. Mae'n nodi bod:
- Mae Llywodraeth y DU wedi datgan y bydd taliadau i ffermwyr yn cael eu gwarantu tan 2020, ond ni chaiff arian ei warantu ar gyfer meysydd fel prosiectau datblygu rhanbarthol a datblygu gwledig oni bai bod y prosiectau wedi'u cymeradwyi cyn Datganiad yr Hydref sydd ar y gweill. Ar ôl hynny, bydd prosiectau'n cael eu hariannu fesul achos. Pe byddai dim ond hanner ohonynt yn cael eu hariannu, bydd y toriad i gyllideb Cymru erbyn 2019-20 yn codi o 3.2% i 4.3%.
- Mae hyd yn oed yn llai clir pa arian fydd ar gael ar ôl 2020 ar gyfer cynlluniau a ariennir gan yr UE ar hyn o bryd. Os na chaiff unrhyw arian ychwanegol ei roi, bydd angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i dros £500 miliwn y flwyddyn o'i chyllideb bresennol os bydd am barhau i ariannu'r cynlluniau hyn. Gallai hyn ddyblu'r toriadau i'r gyllideb ar gyfartaledd i 6.9% yn 2020-21 (gan dybio y bydd Llywodraeth Cymru yn cael yr un faint o arian).
Mae'r adroddiad ar gael i'w ddarllen yn llawn yma.
Ariennir Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a phum corff cenedlaethol yng Nghymru - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, SOLACE Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, a Chydffederasiwn GIG Cymru.