Mynegai Cystadleurwydd y DU
12 Medi 2016
Busnesau yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn bennaf sy’n parhau i lywio cystadleurwydd economaidd y DU.
Dyma un o’r canfyddiadau yn rhifyn 2016 o Fynegai Cystadleurwydd y DU a luniwyd gan yr Athro Robert Huggins o Brifysgol Caerdydd a Dr Piers Thompson Prifysgol Nottingham Trent. Ar sail detholiad o ddangosyddion perfformiad, daw i’r amlwg mai yn Llundain y mae naw o awdurdodau lleol mwyaf cystadleuol Prydain. Dinas Llundain sydd ar y brig, o gryn dipyn, ac fe’i dilynir gan San Steffan, Camden ac Islington.
Southampton yw un o'r dinasoedd sy’n gwella gyflymaf. Mae sefyllfa nifer o ddinasoedd mwyaf Lloegr – gan gynnwys Bryste, Leeds, Nottingham, Newcastle, Sheffield a Lerpwl – wedi gwella hefyd, gan awgrymu bod adfywio parhaus yn mynd rhagddo yn y dinasoedd craidd hyn.
Ar lefel ardal awdurdod lleol, Gosport yn ne-ddwyrain Lloegr sydd wedi dringo fwyaf ers 2013, ac fe’i dilynir gan Corby yn nwyrain canolbarth Lloegr a Babergh yn nwyrain Lloegr. Maldon yn nwyrain Lloegr sydd wedi cwympo fwyaf, ac fe’i dilynir gan Richmondshire yn Swydd Efrog a Humber a Nuneaton a Bedworth yng ngorllewin canolbarth Lloegr.
O safbwynt rhanbarthol, ardaloedd yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr sy’n arwain y ffordd, ac fe’i dilynir gan orllewin canolbarth Lloegr. Gwelwyd un o’r gwelliannau mwyaf yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Yn yr Alban, mae Glasgow a Chaeredin yn parhau i wella eu cystadleurwydd gan awgrymu bod datganoli pŵer i bennu polisi economaidd wedi bod o fudd iddynt. Yng Nghymru, fodd bynnag, mae ardaloedd awdurdodau lleol yn parhau i berfformio'n wannach ac maent wedi cwympo i lawr y rhestr yn gyffredinol. Blaenau Gwent yng nghymoedd y de yw’r lleoliad lleiaf cystadleuol ym Mhrydain.
Yn Lloegr, ardaloedd Partneriaeth y Mentrau Lleol (LEP) yn ardal ehangach de-ddwyrain Lloegr yw’r rhai mwyaf cystadleuol o gryn dipyn. LEP Lloegr sydd ar y blaen, ac fe’i dilynir gan LEP Dyffryn Tafwys Berkshire. Dinas-Ranbarth Bae Abertawe sydd ar waelod rhestr yr ardaloedd LEP/dinas-ranbarth. Ceir tystiolaeth bod ardaloedd llai cystadleuol yn amrywio o ran natur gan eu bod yn cynnwys cefn gwlad Cernyw ac Ynysoedd Scilly, sef yr ail ardal leiaf cystadleuol. Fodd bynnag, mae ardal LEP Black Country sy’n llawer mwy trefol, ychydig uwchben yr ardaloedd hyn.
Meddai’r Athro Huggins, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: “Mae daearyddiaeth y Deyrnas Unedig yn parhau i gyferbynnu’n economaidd gan mai ychydig o leoliadau penodol sy’n llywio’r cyfoeth a gynhyrchir yn y wlad. Yn ôl pob golwg, mae’r ardaloedd hynny sy’n fwy dibynnol ar weithgynhyrchu, yn parhau i fynd yn llai cystadleuol, ac mae cystadleurwydd rhyngwladol y DU yn dibynnu’n gynyddol ar weithgareddau’r sector gwasanaethau ariannol a busnes. Mae’r ffaith nad oes unrhyw bolisi datblygu rhanbarthol neu leol ystyrlon a gaiff ei ariannu’n addas, yn awgrymu y bydd y rhan fwyaf o economïau’r DU yn parhau i weithredu mewn amgylchedd heriol iawn oni bai bod arian cyhoeddus ar gael i’w fuddsoddi.”