Ymchwil ar lawr gwlad yn llywio dull addysgu Bagloriaeth Cymru
12 Medi 2016
Mae ymchwil gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn helpu i lywio gwaith disgyblion sy'n astudio ar gyfer Bagloriaeth Cymru.
Mae Dr Kevin Smith o WISERD – sy'n rhan o Brifysgol Caerdydd - wedi cynnal cyfres o weithdai gydag athrawon o goleg chweched dosbarth yn ne Cymru. Y bwriad oedd eu helpu i ddatblygu eu sgiliau ymchwil a'u galluogi i gefnogi eu myfyrwyr drwy ddefnyddio data cymdeithasegol yn y Prosiect Unigol, sef elfen newydd o'r cymhwyster.
Mae'r gweithdai yn cyflwyno'r athrawon i ymchwil WISERD mewn meysydd sy'n cynnwys canfyddiad y disgyblion o le, y Cwricwlwm Cymreig, y bobl gyhoeddus y mae pobl ifanc yn eu hoffi a'u casáu fwyaf, ac anhunanoldeb plant a'u perthynas ag arian.
Caiff athrawon y cyfle hefyd i ymgyfarwyddo unwaith eto â hanfodion ymchwil addysgol, defnyddio dadansoddiadau data gyda Microsoft Excel, a gwneud cysylltiadau cwricwlaidd a phedagogaidd rhwng y data a'r posibilrwydd o'i ddefnyddio ym mhrosiect ymchwil Bagloriaeth Cymru.
Meddai Dr Smith: "Mae ymroddiad a chymhelliant yr athrawon yma wedi creu cryn argraff arna i. Mae'r newidiadau diweddar i Fagloriaeth Cymru wedi codi rhai pryderon ymhlith athrawon ynglŷn â'r ffordd orau o ddiwallu anghenion eu myfyrwyr o dan y canllawiau newydd. Fodd bynnag, mae'r athrawon yma wedi croesawu'r newidiadau er mwyn helpu eu myfyrwyr a datblygu eu llythrennedd ymchwil eu hunain."
Prosiect Partneriaeth Ysgolion y Brifysgol sy'n ariannu'r gweithdai. Menter gan Gynghorau Ymchwil y DU yw hon sy'n helpu ymchwilwyr i ymgysylltu'n uniongyrchol â myfyrwyr, ac mae hefyd yn cyflwyno cyd-destunau ymchwil cyfoes ac ysbrydoledig i sefyllfaoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol er mwyn gwella a chyfoethogi'r cwricwlwm.
Ychwanegodd Dr Smith: "Mae cefnogaeth Prosiect Partneriaeth Ysgolion wedi galluogi WISERD i geisio diwallu angen sydd heb gael sylw digonol yn ôl llawer o athrawon yng Nghymru. Yn ôl data o un o astudiaethau addysg WISERD, prin iawn yw'r rhyngweithio rhwng athrawon â phrifysgolion ac ymchwil addysgol wedi iddynt gwblhau eu hymarfer dysgu neu eu gradd Meistr yn rhan o gynllun datblygu proffesiynol. Mae mwy o ryngweithio rhwng ysgolion a phrifysgolion yng Nghymru o fudd i athrawon, academyddion a disgyblion. Gyda lwc, gallwn barhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac effeithiol o ddatblygu'r cysylltiadau hyn."