Ysbrydoliaeth gan arwr rygbi
9 Medi 2016
Mae'r arwr rygbi Gareth 'Alfie' Thomas yn helpu'r darlithydd Sandra Fender i baratoi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd.
Mae Sandra, sy'n ddarlithydd mewn nyrsio oedolion yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, yn un o Angylion Alfie, sef grŵp o 100 o redwyr dibrofiad fydd yn cael eu profi i'r eithaf gan y cyn arwr rygbi.
Mae Alfie wedi cynnal sawl digwyddiad hyfforddiant gyda'r rhedwyr – gan gynnwys gair o gyngor a sesiwn rhedeg yn Nhal-y-bont, Pentref Hyfforddiant Chwaraeon y Brifysgol – cyn y ras a gynhelir ddydd Sul 2 Hydref.
Bydd ymdrechion yr Angylion yn cael sylw mewn rhaglen deledu ar BBC One Wales ar 16 Medi.
Dywedodd Sandra, 52, a redodd Marathon Llundain 25 mlynedd yn ôl ond sydd heb redeg ers hynny, fod Alfie'n eu hysgogi a'u hysbrydoli.
"Cawson ni sesiwn hyfforddiant ddwys, a dechreuais redeg yn araf gan fod fy nhroed yn brifo. Roedd Alfie'n cerdded gyda ni wrth y cefn, ac yn ymddiddori'n fawr ynom ni," meddai Sandra.
"Dywedodd 'nid ras yw hi, ond cyfle i newid eich bywyd'."
Mae Sandra, sy'n gyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd ac sydd hefyd yn astudio am Radd Meistr mewn Ymarfer Uwch mewn Nyrsio yn y Brifysgol, yn gallu uniaethu â chyngor Alfie i geisio newid, am ei bod wedi gwneud penderfyniad cadarn i roi'r gorau i'w bywyd segur a bod yn fwy bywiog.
Roedd y gefnogaeth y mae'r Brifysgol yn ei rhoi i Hanner Marathon Caerdydd, ynghyd â'r ffaith bod Sandra wedi cael ei dewis i fod yn aelod o Angylion Alfie ochr yn ochr â'i phedwar ffrind, y Rhondda Rollers o bentref Llanhari yn Rhondda Cynon Taf, yn ddigon i'w hannog i gymryd rhan.
"Mae'n hawdd dod i arfer â pheidio â gwneud ymarfer corff, yn enwedig pan ydych chi'n gweithio'n amser llawn. Ar ôl cyrraedd adref, y cwbl rydych chi am wneud yw rhoi eich traed fyny," meddai.
"Mae mor hawdd rhoi'r gorau i'r holl beth a gwneud dim byd. Dydw i ddim am wneud hynny.
Y Brifysgol yw prif noddwr y ras, yn dilyn ei phartneriaeth lwyddiannus gyda Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd ym mis Mawrth eleni.
Mae hyfforddi ar gyfer y ras wedi bod yn dalcen caled i Sandra, am ei bod wedi cael trafferthion gydag anafiadau, ac roedd yn rhaid iddi gydbwyso'r rhedeg â'i bywyd prysur.
Ond er gwaethaf y da a'r drwg, mae hi eisoes yn elwa ar fanteision ei ffordd newydd, bywiog, o fyw.
"Rwy'n teimlo bod gen i lawer mwy o egni, ac rwy'n fwy brwdfrydig ynglŷn â mynd ati i fwrw 'mlaen â phethau," meddai Sandra.
"Er mawr syndod, rwy'n mwynhau mynd allan i redeg, a chael y teimlad o wneud rhywbeth. Rwy'n teimlo bod y profiad wedi gwella fy agwedd at bethau."
Dangoswyd gwaith llwyddiannus Alfie o hyfforddi 16 o bobl nad oeddent yn rhedeg i gwblhau Hanner Marathon Caerdydd yn 2015 mewn rhaglen deledu boblogaidd ar BBC Cymru. Bydd y rhaglen yn dychwelyd i ddangos profiadau'r grŵp presennol o redwyr dibrofiad.
Mae Gareth Thomas: Alfie's Angels yn gyfres pedair rhan, a chaiff y bennod gyntaf ei darlledu ar BBC One Wales ddydd Gwener 16 Medi, am 19:30. Bydd y bennod olaf yn cael ei darlledu ar 7 Hydref, ac yn dangos pwy lwyddodd i gwblhau'r ras.