Rhaglen ddogfen S4C yn dilyn meddygon y Brifysgol
9 Medi 2016
Nos Fawrth 13 Medi, am 20:25, bydd cyfres newydd yn dechrau ar S4C sy'n rhoi darlun unigryw o hynt a helynt 15 o fyfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd yn ystod blwyddyn o hyfforddiant. Daw'r myfyrwyr hyn o amryw gefndiroedd ac ardaloedd yng Nghymru, ond mae pob un ohonynt yn rhannu brwdfrydedd dros feddygaeth. Maent rhwng 18 a 23 oed ac yn gallu siarad Cymraeg.
Mae cyfres Doctoriaid Yfory yn dilyn y myfyrwyr wrth iddynt fynd i'r afael â gofynion blwyddyn academaidd ddwys a realiti garw'r theatrau llawdriniaethau prysur, meddygfeydd a wardiau ysbytai ledled Cymru a thu hwnt. Bydd y rhaglen, sy'n rhoi mynediad digynsail y tu ôl i'r llenni, yn dangos yn glir yr heriau emosiynol, meddyliol a chorfforol y mae myfyrwyr yn eu hwynebu o ddiwrnod cyntaf eu cwrs hyd at raddio.
Cafodd y gyfres saith rhan ei chynhyrchu gan gwmni cynhyrchu blaenllaw Green Bay Media a'i ffilmio mewn partneriaeth ag Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Cawsant fynediad unigryw at theatrau llawdriniaethau, meddygfeydd, wardiau ysbytai a chyfleusterau hyfforddiant clinigol gwerth miliynau o bunnoedd ar gampws Mynydd Bychan y Brifysgol.
Dywedodd cynhyrchydd y gyfres, Llinos Griffin-Williams o Green Bay Media: "Mae'r gyfres yn rhoi portread unigryw y tu ôl i'r llenni o sut mae Ysgol Meddygaeth arloesol yn helpu i droi'r israddedigion ifanc hyn, sy'n aml yn gwbl newydd i'r maes ac yn sicr yn ddibrofiad, yn feddygon, llawfeddygon a meddygon ymgynghorol y dyfodol.
"Byddwn yn mynd ar daith ledled Cymru a chyn belled â Seland Newydd a Thonga, ond bydd y daith bersonol ac emosiynol yn ein tywys ar daith hyd yn oed yn hirach."
Ychwanegodd Swyn Lewis, myfyriwr Blwyddyn 5 a gymerodd ran yn y rhaglen ddogfen: "Roedd yn wych cael y cyfle i ddangos i bobl sut beth yw astudio meddygaeth mewn gwirionedd. Gyda lwc, bydd hefyd yn ysbrydoli meddygon y dyfodol yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae'n braf cael fy adnabod o gwmpas yr ysbyty fel seren y byd teledu…! "
Caiff pennod un Doctoriaid Yfory ei darlledu am 20:25, nos Fawrth 13 Medi.