Dannedd diddorol
8 Medi 2016
Mae gwaith ymchwil y mae'r Brifysgol yn rhan ohono yn newid ein dealltwriaeth o pryd dechreuodd pobl Fesolithig fwyta planhigion amaethyddol. Dyma'r bwyd a wnaeth ragflaenu'r grawnfwydydd sydd gennym heddiw.
Mewn astudiaeth ar y cyd rhwng ymchwilwyr ym mhrifysgolion Caergrawnt, Caerdydd, UCL ac Efrog, darganfuwyd tystiolaeth uniongyrchol bod pobl Fesolithig yn y rhanbarth hwn a oedd yn gorfod chwilio am eu bwyd, yn bwyta grawnfwydydd domestig erbyn 6600 BC, drwy astudio calchgen deintyddol o weddillion cynhanesyddol.
Gan gymryd gweddillion a ddarganfuwyd mewn cloddfa yn Vlasac yn y Balcanau rhwng 2006–2009, defnyddiodd y tîm offer microsgopeg polaraidd i astudio mân ffosiliau a ddaliwyd ym mhlac deintyddol calcheiddiedig naw unigolyn oedd yn dyddio yn ôl i'r cyfnod Mesolithig Diweddar (6600–6450 CC) a'r cyfnod pontio rhwng y cyfnodau Mesolithig a Neolithig (6200–5900 CC).
"Mae mân ffosiliau a ddaliwyd mewn calchgen deintyddol yn dystiolaeth uniongyrchol bod planhigion yn ffynhonnell bwysig o egni yn neiet pobl y cyfnod Mesolithig a oedd yn gorfod chwilio am eu bwyd. Ond yn fwy arwyddocaol na hynny, maent yn dangos bod planhigion amaethyddol wedi eu cyflwyno i'r Balcanau yn annibynnol o weddill yr arteffactau ac anifeiliaid amaethyddol a gyflwynwyd sy'n gysylltiedig â'r cyfnod Neolithig, a ddaeth law yn llaw â'r cymunedau ffermio a gyrhaeddodd y rhanbarth," ychwanegodd.
Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu efallai y bydd angen ailystyried syniadau cyffredin ynglŷn ag elfennau nodweddiadol y cyfnod Neolithig Cynnar – crochenwaith, cerrig mâl, tai pren, bwyelli caboledig, anifeiliaid dof a rhywogaethau planhigion sy'n hysbys mewn cyd-destun amaethyddol yn unig.
Dywedodd Dr Borić, sy'n gweithio ym Mhrifysgol Caergrawnt yn ystod y gwaith cloddio: "Pan ddarganfuwyd hyn, cawsom yr argraff bod y grwpiau hyn o helwyr-gasglwyr cymhleth mewn cysylltiad â lleoliadau eraill pellach i ffwrdd. Gwelsom leiniau a gynhyrchwyd â gastropodau morol sy'n dod o ardaloedd arfordirol yng Ngwlad Groeg a'r Adriatig, cannoedd o gilomedrau i ffwrdd o'r rhanbarth dan sylw, er enghraifft.
"Mae deall bod ein gwaith cloddio'n dangos bod casglwyr bwyd Mesolithig o'r ardal hon a oedd yn bwyta rhywogaethau cnydau amaethyddol, a hynny cyn y dyddiad y cytunwyd arno'n gyffredinol ynglŷn â lledaeniad cnydau amaethyddol ar draws Ewrop, yn hynod ddiddorol. Mae'r dystiolaeth yn newid ein barn ynglŷn â'r broses a arweiniodd at y cyfnod Neolithig ar gyfer y cyfandir cyfan, a gallai hyn fod yn debyg i fodelau eraill sy'n ymwneud â lledaeniad planhigion amaethyddol ymhlith casglwyr bwyd yn America."
Mae gronynnau startsh sydd wedi goroesi mewn calchgen deintyddol o Vlasac yn rhoi'r dystiolaeth uniongyrchol gyntaf bod grawnfwydydd amaethyddol Neolithig, megis gwenith a haidd, wedi cyrraedd casglwyr bwyd yn ddwfn ym mherfeddwlad y Balcanau erbyn 6600 CC. Tybir mai rhwydweithiau cymdeithasol rhwng casglwyr bwyd lleol a chymunedau Neolithig yw'r ffactor pennaf yn hyn o beth.
Mae Dental calculus reveals Mesolithic foragers in the Balkans consumed domesticated plant foods gan Emanuela Cristiani [McDonald Institute for Archaeological Research, Caergrawnt] Anita Radini [Efrog], Marija Edinbourogh [UCL] a Dušan Borić [Caerdydd] wedi'i gyhoeddi yn Proceedings of the National Academy of Sciences.
Llyfr diweddaraf Dr Boric, Deathways at Lepenski Vir: Patterns in Mortuary Practice, yw cyfrol gyntaf astudiaeth archeolegol ac anthropolegol gynhwysfawr o weddillion ysgerbydol dynol o'r safle hwn, sydd wedi'i chyhoeddi gan Gymdeithas Archeolegol Serbia.