Olrhain olion traed daearegol Panama
6 Medi 2016
Mae ar y gyffordd rhwng dau gyfandir, yn gwahanu dau gefnfor anferth ac yn cael effaith sylweddol ar gerhyntau cefnforol byd-eang a'r hinsawdd ar draws hemisffer y Gogledd.
Serch hynny, ychydig a wyddom am hanes Isthmus Panama, y llain fechan hon o dir rhwng Gogledd a De America, sydd wedi dylanwadu ar ffurf bresennol y Ddaear.
Mewn anerchiad yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain eleni, bydd Dr David Buchs, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, yn datgelu sut mae ei dîm yn cynnal archwiliadau manwl o dirweddau Panama a Colombia i egluro sut a pham yr ymffurfiodd Isthmus Panama dros 3 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Yn benodol, bydd Dr Buchs yn esbonio sut mae’r tîm yn rhoi hanes Isthmus Panama at ei gilydd drwy astudio sut mae tectoneg platiau a folcanigrwydd wedi effeithio ar y rhanbarth, sy’n dal heb ei archwilio i raddau helaeth oherwydd y llystyfiant trwchus.
Mae data daearegol newydd wedi awgrymu bod ymffurfiad Isthmus Panama yn fwy cymhleth nag y tybiwyd o'r blaen, ac mae gwaith arsylwi rhagarweiniol Dr Buchs a'i dîm eisoes wedi datgelu cylchfeydd ffawtio oedd heb eu nodi a llosgfynyddoedd hynafol mewn sawl rhan o'r rhanbarth.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Dr Buchs: "Yn ogystal, byddai ffawna daearol yng Ngogledd a De America yn dal yn ynysig, heb fedru symud yn rhwydd o un cyfandir i’r llall. Mae hon yn sefyllfa mewn gwrthgyferbyniad trawiadol i’r ecosystemau yr ydym yn gyfarwydd â hwy heddiw ar gyfandiroedd America.
"Mae arwyddocâd amlddisgyblaeth mawr, felly, i sut a pham ymffurfiodd Isthmus Panama ac edrychwn ymlaen at rannu ein canfyddiadau a'n profiadau hyd yma gyda'r cyhoedd yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain."
Gŵyl Wyddoniaeth Prydain, a gynhelir yn Abertawe o 6-9 Medi, yw digwyddiad cenedlaethol mwyaf hirsefydlog Ewrop, ac mae’n rhoi cyfle i bobl ddod i gysylltiad â gwyddonwyr, peirianwyr, technolegwyr a gwyddonwyr cymdeithasol.
Cynhelir anerchiad Dr David Buchs, 'Olrhain olion traed daearegol Panama’ ddydd Mercher 7 Medi o 12:00 – 13:00 yn Narlithfa L, Adeilad Faraday, Prifysgol Abertawe.