Diwrnod di-Draffig yn dod i Gaerdydd
1 Medi 2016
Mae Prifysgol Caerdydd yn cefnogi Diwrnod di-Draffig y Byd ar ddydd Iau, 22 Medi.
Mae trigolion a chymudwyr Caerdydd yn cael eu hannog i adael eu ceir gartref ar y diwrnod hwn a defnyddio dulliau eraill i deithio i mewn i Gaerdydd ac allan ohoni.
Bydd Plas y Parc yng Nghathays ar gau i bob cerbyd rhwng 20:00 ar 21 Medi tan hanner nos 22 Medi i alluogi sefydlu marchnad bwyd gan gynnwys arddangosiad trafnidiaeth i roi gwybodaeth a chyngor ar drafnidiaeth gynaliadwy.
Bydd Cyngor Dinas Caerdydd yn gweithio gyda nifer o bartneriaid gan gynnwys y Brifysgol i gynnal y digwyddiad hwn, a fydd ar yr un pryd â digwyddiadau Wythnos y Glas.
P’un a ydych am gael gwybodaeth am ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus, gwybodaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd, rhoi tag diogelwch ar eich beic neu am fwynhau'r farchnad stryd – bydd amrywiaeth o stondinau ac arddangosiadau i bawb eu mwynhau.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio, Trafnidiaeth a Chynaliadwyedd, y Cynghorydd Ramesh Patel: "Mae gwneud cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn ddewisiadau mwy deniadol a phosibl i gymudwyr a thrigolion yn rhan hollbwysig o ddatblygiad parhaol Caerdydd a chyflawni ein huchelgais o ddod y brifddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop.
"Mae’n galonogol gweld yr holl ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus a’n partneriaid trafnidiaeth eraill yn gweithio gyda ni ar hyn.
"Y brif neges yw ein bod ni am i bobl ddeall bod dewisiadau eraill ar gael ac rydym am i bobl fynd i’r arddangosiad ar Blas y Parc ar 22 Medi i ddysgu mwy.”
Bydd manylion pellach ar gael cyn bo hir ynghylch sut y bydd cau'r ffordd yn effeithio ar staff a myfyrwyr.