Dathlu cysylltiadau â Phatagonia
15 Awst 2014
Mae Ysgol y Gymraeg wedi dathlu ei chyfraniad sylweddol at ymchwil ac addysgu yn y Wladfa ym Mhatagonia mewn dau ddigwyddiadau yn ddiweddar.
Cyflwynwyd rhodd gan Rebeca White, athrawes ysgol gynradd o Batagonia, i Brifysgol Caerdydd ar ran Cymdeithas Dewi Sant, Patagonia.
Ar hyn o bryd mae Rebeca yn mynychu Ysgol Haf y Ganolfan Cymraeg i Oedolion (sy'n rhan o Ysgol y Gymraeg), ac mae'n gydlynydd y pwyllgor sy'n gyfrifol am drefnu dathliadau 150 mlwyddiant y Wladfa ym Mhatagonia, a gynhelir yn 2015.
Cyflwynwyd y rhodd i gydnabod gwaith y Ganolfan fel rhan o brosiect sy'n hyrwyddo dysgu Cymraeg yn ardal Chubut ac fe'i derbyniwyd gan yr Athro Hywel Thomas, y Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Arloesi a Menter, ar ran y Brifysgol.
Yn yr ail ddigwyddiad, cafwyd ymweliad gan Lywodraethwr talaith Chubut, Martin Buzzi, â'r Brifysgol i hyrwyddo 150 mlwyddiant y Wladfa ym Mhatagonia. Llofnodwyd Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth gan y Llywodraethwr Buzzi a'r Athro George Boyne (Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol) yn addo partneriaeth a chydweithio parhaus rhwng Prifysgol Caerdydd a thalaith Chubut.
Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymry America yr Ysgol eisoes yn cyfrannu at y dathliadau pen-blwydd gyda chynhadledd ryngwladol i'w chynnal yng Nghaerdydd fis Gorffennaf 2015. Yn ogystal, dan nawdd Banc Santander, mae dau fyfyriwr israddedig yn treulio mis ym Mhatagonia ar hyn o bryd yn cael profiad gwaith wrth addysgu'r Gymraeg yno, a bydd tri aelod o staff yr Ysgol yn teithio i'r Ariannin ym mis Medi i fynychu cynhadledd ym Mhrifysgol Patagonia.
Dywedodd Pennaeth Ysgol y Gymraeg, yr Athro Sioned Davies: "Rydym yn falch iawn o'r holl gysylltiadau sydd yn bodoli rhwng Ysgol y Gymraeg a'r Wladfa. Mae'r Wladfa yn un o brif feysydd ymchwil ein Canolfan Uwchefrydiau Cymry America, ac mae nawdd gan Fanc Santander, dan ei Gynllun Prifysgolion Santander, yn ein galluogi i ddatblygu cysylltiadau â nifer o sefydliadau yn yr Ariannin, yn enwedig gyda Phrifysgol Genedlaethol Patagonia.
"Roedd y digwyddiad cyntaf yn dathlu ein cysylltiad arbennig rhwng y Wladfa a'n Canolfan Cymraeg i Oedolion - mae'r Ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth â'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Cyngor Prydeinig i anfon athrawon Cymraeg allan i'r Wladfa.
"Mae hi hefyd yn bleser croesawu myfyrwyr o Batagonia i'n cwrs haf blynyddol. Mae nifer o'r myfyrwyr bellach yn rhugl yn y Gymraeg ac yn cyfrannu at yr adfywiad ieithyddol yn ardal Chubut a thu hwnt."