Cam mawr tuag at ddatblygu prawf gwaed Alzheimer
30 Awst 2016
Mae tîm ymchwil a arweinir gan Brifysgol Caerdydd, wedi cymryd cam sylweddol tuag at ddatblygu prawf gwaed syml sy'n darogan dyfodiad clefyd Alzheimer.
Cymdeithas Alzheimer sy'n ariannu'r gwaith sy'n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Coleg y Brenin Llundain a Phrifysgol Rhydychen. Maent wedi astudio gwaed 292 o bobl oedd â'r arwyddion cynharaf o nam ar y cof, a daethant o hyd i gyfres o fiomarcwyr (dangosyddion clefyd) oedd yn darogan a fyddai'r unigolyn o dan sylw yn datblygu clefyd Alzheimer ai peidio.
Meddai'r Athro Paul Morgan, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd: "Mae ein hymchwil yn profi bod modd darogan a fydd unigolyn sydd â phroblemau cymedrol gyda'r cof yn debygol o ddatblygu clefyd Alzheimer ai peidio dros y blynyddoedd nesaf. Gyda lwc, byddwn yn gallu datblygu hyn er mwyn creu prawf gwaed syml fydd yn gallu darogan pa mor debygol yw hi y bydd pobl hŷn sydd â nam cymedrol neu gymharol ddiniwed ar y cof, yn datblygu clefyd Alzheimer."
Cymerodd yr astudiaeth samplau gwaed gan unigolion oedd â symptomau hynod gyffredin o nam ar y cof, a mesurwyd nifer sylweddol o broteinau sy'n perthyn i ran o'r system imiwnedd. Gwyddwn fod y rhan hon yn achosi llid ac mae wedi cyfrannu at glefydau'r ymennydd yn y gorffennol. Pan ailaseswyd yr unigolion flwyddyn yn ddiweddarach, roedd tua chwarter wedi datblygu clefyd Alzheimer ac roedd tri o'r proteinau a gafodd eu mesur yn eu gwaed yn dangos gwahaniaethau sylweddol rhwng eu gwaed nhw, a gwaed y rhai eraill a gymerodd ran na wnaeth ddatblygu'r clefyd.
Ychwanegodd yr Athro Morgan: "Mae clefyd Alzheimer yn effeithio ar tua 520,000 o bobl yn y DU ac mae'r nifer yn cynyddu'n barhaus wrth i'r boblogaeth heneiddio. Felly, mae'n bwysig ein bod yn canfod ffyrdd newydd o ganfod y clefyd yn gynnar, gan rhoi cyfle i ni ymchwilio a dechrau triniaethau newydd cyn y gwneir difrod na ellir ei wella."
Mae'r canfyddiadau newydd hyn wedi gosod y sylfaen ar gyfer astudiaeth barhaus a llawer mwy estynedig a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome. Mae llawer o brifysgolion y DU a chwmnïau fferyllol yn gysylltiedig â'r gwaith, a'i nod fydd ailadrodd y canfyddiadau a mireinio'r prawf.
Cyhoeddir y papur ‘Complement Biomarkers as predictors of disease progression in Alzheimer’s disease’ yn Journal of Alzheimer's Disease.