Caerdydd yn codi i safle ymhlith 150 Uchaf y Byd
15 Awst 2014
Mae tabl y cynghrair Academaidd o Brifysgolion y Byd 2014, a gyhoeddir heddiw, hefyd yn rhestru Caerdydd ymhlith 20 uchaf y DU.
Mae'r data, a ryddhawyd gan y Ganolfan ar gyfer Prifysgolion o Safon Fyd-eang ym Mhrifysgol Shanghai Jiao Tong, wedi cael eu cyhoeddi ers 2003 ac fe'u cydnabyddir fel meincnod ar gyfer perfformiad rhyngwladol prifysgolion.
Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Dros Dro Caerdydd, yr Athro Dylan Jones: "Mae'r meysydd pwnc eang a gyhoeddir heddiw'n dangos ein bod yn cael ein rhestru ymhlith 100 uchaf y byd ar gyfer gwyddorau bywyd, ac mae meddygaeth ymhlith 150 uchaf y byd. Mae'r llwyddiannau hyn wedi'n helpu i wneud cynnydd sylweddol yn y Tabl Academaidd o Brifysgolion y Byd."
Mae tabl 2014 yn dangos bod Prifysgol Harvard yn parhau i fod ar y brig am y 12fed flwyddyn. Mae 10 Uchaf y prifysgolion hefyd yn cynnwys Stanford, MIT, Berkeley, Caergrawnt a Rhydychen.