Tynnu Cartwnau o’r Rhyfel Byd Cyntaf
15 Awst 2014
Daethpwyd â chartwnau sy'n dangos digwyddiadau a heriau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn ôl i sylw'r cyhoedd gan haneswyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r prosiect Cartooning the First World War, a arweinir gan yr Athro Chris Williams, Pennaeth Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, yn digido holl allbwn adeg rhyfel cartwnydd y Western Mail a News of the World Joseph Morewood Staniforth, a gynhyrchodd tua 1,350 o gartwnau ysgrifbin ac inc drwy gydol pedair blynedd y rhyfel.
Mae'r prosiect, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn ffurfio rhan o goffâd cenedlaethol canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf a'i nod yw sicrhau bod y cartwnau'n hygyrch i ymchwilwyr a'r cyhoedd.
Tan nawr, bu'r cartwnau ar gael i'w gweld ar ficroffilm yn unig ac mae llawer ohonynt wedi'u crafu ac yn frwnt. Mae gwirfoddolwyr wedi helpu i lanhau'r delweddau ac ysgrifennu sylwebaethau byr er mwyn sicrhau bod eu hystyr yn glir i gynulleidfaoedd modern. Mae'r cartwnau ar gael i'w gweld trwy wefan ryngweithiol lle yr anogir defnyddwyr i lan lwytho barnau am ystyron posibl y cartwnau.
"Mae'r cartwnau hyn yn cynnig mewnwelediad unigryw i'r ffordd y cafodd y rhyfel ei ddeall gan y cyhoedd ym Mhrydain Mewn rhai ffyrdd, roeddent o flaen eu hamser,, sef dyddiadur gweledol a oedd yn hygyrch i bawb, yn debyg i flog heddiw. Trwy'r prosiect, caiff y gyfres o gartwnau eu tynnu at ei gilydd am y tro cyntaf a bydd yn hynod ddiddorol gweld ymatebion darllenwyr er mwyn rhoi syniad i ni o sut y byddai pobl wedi ymateb iddynt yn ystod y rhyfel, meddai'r Athro Williams.
Yn ddiweddar, cynhaliodd y prosiect gystadleuaeth gyda'r holl ysgolion ledled Cymru lle yr ymatebodd disgyblion 11-14 oed i'r cartwnau drwy greu eu dehongliadau gweledol eu hunain o'r rhyfel. Dywedodd Swyddog y Prosiect, sef Dr Rhiannydd Biebrach: "Roedd yn wych gweld sut roedd y bobl ifanc hyn yn eu harddegau wedi ymgysylltu'n agos, nid yn unig gyda'r delweddau eu hunain, a'r ffordd yr oedd Staniforth yn gweithio, ond yn ogystal gyda rhywfaint of themâu eithaf prudd ynghylch rhyfel a gwrthdaro." Datgelir yr enillydd yn nghynhadledd y prosiect a gaiff ei chynnal ar 13-14 Tachwedd yn Amgueddfa'r Glannau Abertawe.
Bydd arddangosfa deithiol, a gafodd ei harddangos eisoes yn Eisteddfod Genedlaethol eleni ac yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn teithio o gwmpas de Cymru yn yr hydref, a gellir ei gweld yn Nhŷ Bedwellty, Tredegar, tan 17 Awst.
I gael rhagor of wybodaeth am y gynhadledd, cysylltwch â Rhianydd ar biebrachr@caerdydd.ac.uk