Croeso i Gaerdydd
14 Awst 2014
Bydd miloedd o fyfyrwyr dawnus yn cofrestru yn y Brifysgol ym mis Medi ar ôl derbyn eu canlyniadau Safon Uwch heddiw.
Mae Prifysgol Caerdydd, sy'n rhan o Grŵp Russell o brifysgolion sy'n ddwys o ran ymchwil, yn dal i fod yn un o'r lleoliadau mwyaf poblogaidd i astudio. Mae ei hamgylchedd addysgu a arweinir gan ymchwil a'i chyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n werth miliynau o bunnoedd yn denu myfyrwyr o'r Deyrnas Unedig a thramor.
Dywedodd Dave Roylance, Pennaeth Recriwtio Israddedigion yn y Brifysgol: "Llongyfarchwn yr holl ymgeiswyr a gyflawnodd y graddau sydd eu hangen ar gyfer cael eu derbyn, ac edrychwn ymlaen at groesawu'r garfan newydd hon o israddedigion addawol i'r Brifysgol ym mis Medi."
Mae adeilad Undeb y Myfyrwyr wedi cael ei uwchraddio yn dilyn ailddatblygiad gwerth miliynau o bunnoedd. Felly, gall myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd fanteisio ar fwy o fannau dysgu cymdeithasol, clwb nos ac ardal fwyd newydd, a derbynfa ac ardaloedd cymdeithasol wedi'u hadnewyddu. Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd wedi'i raddio ymhlith y 5 gorau yn y Deyrnas Unedig ar ôl dringo i 85% ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr yng nghanlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddar.
Gall israddedigion Caerdydd hefyd ehangu eu gorwelion gyda dwy fenter newydd a lansiwyd eleni i wella profiad a chyflogadwyedd myfyrwyr. Mae'r rhaglen Ieithoedd i Bawb yn rhoi cyfle i bob myfyriwr astudio iaith dramor fodern, yn rhad ac am ddim, ochr yn ochr â'u gradd, ac mae'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang yn cynnig cyngor a gwybodaeth ynglŷn â gweithio, astudio neu wirfoddoli dramor.
Dywedodd Elliot Howells, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: "Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn gyffrous iawn i ni, ac rwy'n awyddus iawn i groesawu'r miloedd o fyfyrwyr newydd i Brifysgol Caerdydd. Y cyngor gorau y gallaf ei roi i fyfyrwyr newydd yw achubwch ar bob cyfle! Mae cymaint yn digwydd yma, felly gwnewch yn siwr eich bod chi'n cymryd rhan o'r dechrau. Mae'r cyfan y mae angen i chi ei wybod am #CardiffFreshers14 ar gael yn cardiffstudents.com/freshers. Dyma fideo llongyfarchiadau gennym ni yn Undeb y Myfyrwyr!"
Fy mhrifysgol a fi
Cari Davies
Bydd Cari Davies yn dechrau cwrs Meistr yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ym mis Medi. Mae Cari'n hel atgofion am ei diwrnod canlyniadau Safon Uwch ac yn siarad am y cyfleoedd niferus a ffurfiodd ei phrofiad yn y brifysgol, ac a arweiniodd at ei hethol yn llywydd Undeb y Myfyrwyr.
Nid oedd fy niwrnod canlyniadau Safon Uwch wedi mynd cystal ag y gobeithiais. Ni chefais y graddau ar gyfer y cwrs yr oeddwn i am ei wneud yn y brifysgol, ac rwy'n cofio teimlo fel petai fy holl gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn rhacs. Fe wnes i grïo, llawer, a gwneud nifer o alwadau ffôn desbrad yn ceisio negodi. Rwy'n credu y gwnes i hyd yn oed ymbil ar un adeg.
Ond roeddwn i'n lwcus ac fe ges i le i astudio yng Nghaerdydd trwy Glirio. Ar ôl graddio gyda 2:1 mewn Gwleidyddiaeth Ewropeaidd a Chysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd ddwy flynedd yn ôl, rydw i ar fin dechrau fy ail radd yng Nghaerdydd, sef gradd Meistr mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu, ac ni fuaswn yn ystyried mynd i unrhyw le arall.
Gall y cam i fyny o'r ysgol i'r Brifysgol fod yn un brawychus, ac roedd symud oddi cartref am y tro cyntaf yn sicr yn achos pryder mawr. Ond doedd dim angen i mi boeni. Roedd cymaint i gymryd rhan ynddo ac fe ges i fy 'sgubo i fyny yn y bwrlwm ar y campws sy'n gwneud Pythefnos y Glas mor gyffrous.
Roedd amrywiaeth eang o fodiwlau i ddewis o'u plith ar fy nghwrs cyntaf ac roeddwn i'n gallu gwneud fy mhenderfyniad trwy ystyried dulliau asesu; mae'n well gen i waith cwrs nag arholiadau bob tro! Roeddwn i'n gallu cymryd dau fodiwl o bwnc arall hefyd, a oedd yn fonws annisgwyl. Fe ddewisais i fodiwlau newyddiaduraeth a dwlu arnynt. Doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny ar y pryd, ond dyna a heuodd yr hadau ar gyfer fy newis o radd Meistr yn y dyfodol.
Un o'r ffactorau mwyaf a gyfrannodd at fy mhrofiad cadarnhaol ym Mhrifysgol Caerdydd oedd Undeb y Myfyrwyr. Fe wnes i roi cynnig ar amrywiaeth o glybiau chwaraeon a chymdeithasau. Fe wnes i hyd yn oed ymuno â'r gymdeithas reslo cwstard – er na wnes i erioed fynd i ornest 'reslo'. Yn y pen draw, fe wnes i ymrwymo i'r clwb rhwyfo ac Xpress Radio (yr orsaf radio myfyrwyr). Er y dywedir hyn yn aml, mae'r ffrindiau a wnes i drwy'r ddau beth hyn yn ffrindiau am oes. Fe wnes i hefyd fynd i'm gwrthdystiad gwleidyddol cyntaf, cafodd fy ngwaith ei gyhoeddi ym mhapur y myfyrwyr a chefais rai o'm nosweithiau allan gorau erioed, bob un ohonynt oherwydd Undeb y Myfyrwyr.
Gan fod yr Undeb wedi ffurfio cymaint o'm hamser yn y Brifysgol, penderfynais ymgeisio i fod yn un o'r swyddogion sy'n ei redeg. Cefais fy ethol yn Is-lywydd Chwaraeon yn 2012, a'r flwyddyn ganlynol cefais fy ethol yn Llywydd yr Undeb. Rwy'n falch iawn bod Undeb Myfyrwyr Caerdydd newydd gael ei bleidleisio'n un o'r pum Undeb Myfyrwyr gorau yn y Deyrnas Unedig.
Hon yw fy chweched flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd ac rwy'n ddiolchgar am yr holl gyfleoedd rydw i wedi'u cael yn ystod fy amser yma. Rwy'n dechrau dod i dderbyn y ffaith mai hon fydd fy mlwyddyn olaf. Ond mae wastad PhD, on'd oes?