Myfyrwyr bodlon
12 Awst 2014
Mae naw allan o bob deg myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yn 'cytuno'n llwyr' neu'n 'cytuno'n bennaf' eu bod nhw'n 'fodlon yn gyffredinol' gyda'u profiad fel myfyrwyr.
Mae Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, yn dangos bod 89 y cant o israddedigion yn fodlon yn gyffredinol' gyda'u profiad fel myfyrwyr.
Mae Prifysgol Caerdydd yn parhau uwchlaw cyfartaledd y sector ar draws y DU cyfan, sef 86 y cant, ac uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 85 y cant.
Sicrhaodd y Brifysgol y marc gorau erioed ar gyfer 'addysgu ar fy nghwrs', gan sgorio 89 y cant, dau bwynt yn uwch na chyfartaledd y sector, a thri phwynt yn uwch na chyfartaledd Cymru. Cynyddodd sgôr Prifysgol Caerdydd ddau bwynt, i 90 y cant, o ran bodlonrwydd 'adnoddau dysgu' o gymharu â'r llynedd - sy'n uwch na chyfartaledd sector y DU a Chymru.
Cododd bodlonrwydd myfyrwyr gydag Undeb y Myfyrwyr dri phwynt i 85 y cant - uchafswm gorau erioed arall.
Mae'r Arolwg, a gyhoeddir yn flynyddol, yn gofyn i fyfyrwyr israddedig sgorio eu profiad yn y Brifysgol mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys addysgu, cymorth academaidd a datblygiad personol. Cymerodd oddeutu 80 y cant o israddedigion blwyddyn olaf – tua 3,500 o fyfyrwyr – ran yn arolwg eleni.
Dywedodd y Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd, yr Athro Patricia Price: "Rwy'n falch iawn o weld ein bod wedi cynnal lefel mor uchel o fodlonrwydd ymysg ein myfyrwyr – yn wir, rydym wedi gwella o gymharu â'r llynedd.
"Mae'r canlyniadau'n adlewyrchu'r bartneriaeth gref sydd rhyngom ni â'r myfyrwyr, ac ymrwymiad, ymroddiad a brwdfrydedd ein staff. Mae Prifysgol Caerdydd ar fin cyflwyno ystod o gynlluniau newydd er mwyn adeiladu ar y llwyddiant hwn a hoffwn ddiolch i'n myfyrwyr am eu cyfraniadau at gynlluniau'r dyfodol."
Dywedodd Elliot Howells, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: "Rwy'n hynod falch bod Undeb y Myfyrwyr Caerdydd wedi cael ei enwi ym mhump uchaf Undebau Myfyrwyr y DU. Gweithiodd y staff a'r swyddogion mor galed y llynedd er mwyn gwella popeth rydym ni'n ei wneud ac nid oes modd i mi ddiolch digon iddynt. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn yn ystod y flwyddyn sydd i ddod."
Mae Prifysgol Caerdydd yn anelu at sicrhau sgôr o 90 y cant am fodlonrwydd cyffredinol ym mhob Ysgol ac 80 y cant yn y categori asesu ac adborth erbyn 2017.