Argraff fawr y Brifysgol yn yr Eisteddfod
11 Awst 2014
Mae rhai o'r materion allweddol sy'n wynebu Cymru wedi bod yn destun trafodaethau manwl fel rhan o wythnos hynod lwyddiannus i Brifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae pafiliwn y Brifysgol ar y maes wedi bod yn brysur iawn gyda sgyrsiau bywiog ar eitemau pynciol fel effaith annibyniaeth yr Alban ar Gymru, a dyfodol newyddiaduraeth yng Nghymru.
Roedd yr uchafbwyntiau'n cynnwys Richard Wyn Jones, yr Athro ar wleidyddiaeth Cymru yn y Brifysgol, yn ystyried sut byddai Cymru yn cael ei heffeithio gan annibyniaeth yr Alban, dim ond ychydig wythnosau cyn y refferendwm yn yr Alban ar 18 Medi.
Siaradwr proffil uchel arall oedd Cyfarwyddwr Cyfathrebu News UK, Guto Harri - cyn ymgynghorydd i Boris Johnson ym maes y cyfryngau - a fu'n siarad am gynllun News UK, sy'n hyfforddi newyddiadurwyr y dyfodol.
Hefyd, bu Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymru, BBC Wales, yn siarad â phanel o fri am effeithiau Comisiwn Silk, a wnaeth adolygu'r achos dros ddatganoli pellach yng Nghymru.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod, un o wyliau diwylliannol ac artistig mwyaf Ewrop, yn Llanelli yn Sir Gâr eleni, a daeth i ben ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth y Brifysgol yn siŵr bod hanes lleol ar yr agenda, gan i'r Athro Sioned Davies o'r Ysgol Gymraeg, olrhain tarddiad y gân Sosban Fach, cân werin sydd â chysylltiad agos iawn â Llanelli a'i hanes rygbi balch.
Roedd atyniadau eraill yn cynnwys ymwelwyr yn archwilio cyfres o arddangosiadau rhyngweithiol yn ym mhabell Darganfod y Brifysgol - fel y Prosiect Dyfrgwn, sef cynllun goruchwylio amgylcheddol tymor hir sy'n defnyddio dyfrgwn a gaiff eu canfod yn farw, i helpu i ymchwilio i halogyddion, clefydau a bioleg poblogaeth ledled y DU.
Dywedodd Bruce Etherington, Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol y Brifysgol: "Mae wedi bod yn wych cael siarad ag ymwelwyr y maes am waith ymchwil y Brifysgol a gwrando ar yr hyn y maen nhw ei eisiau gennym ni.
"Rydym ni wedi cael rhai trafodaethau gwych yn dilyn y sgyrsiau, gan gynnwys beth allai'r refferendwm yn yr Alban ei olygu i Gymru, a hanes Sosban Fach.
"Rydym ni wedi gweld cyn-fyfyrwyr yn dod i'r stondin yn hel atgofion am eu hamser yng Nghaerdydd a phobl ifanc yn archwilio eu hopsiynau ar gyfer y dyfodol.
"Fel dysgwr y Gymraeg, mae wedi bod yn wych cael treulio amser wedi cael fy amgylchynu yn yr iaith, ac mae pobl wedi bod yn wych gyda fy ymdrechion i siarad â nhw yn Gymraeg."
Llwyddiant arall oedd lansiad y papur newydd digidol cyntaf erioed a gynhyrchwyd ar gyfer yr ŵyl, o'r enw Llais y Maes, gan Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol y Brifysgol.
Roedd yn wefan ddwyieithog a chafodd ei rhedeg gan dîm golygyddol o saith o fyfyrwyr y Brifysgol, mewn partneriaeth â'r Eisteddfod.
Mae'r papur newydd digidol yn rhan o brosiect ymgysylltu Newyddiaduraeth Gymunedol y Brifysgol, sy'n un o bump o brif gynlluniau sy'n canolbwyntio ar gynhwysiant cymdeithasol ac addysgol, ac iechyd, yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt.