ImprompDo
7 Awst 2014
Mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg wedi datblygu ap newydd i wella cynhyrchiant.
Mae ImprompDo yn mabwysiadu ymagwedd ffres ar gyfer cynhyrchiant difyfyr trwy wneud pethau ar adegau amserol, yn hytrach na gweithio i gyfyngderau amser llym.
Mae'r ap yn offeryn i gynyddu cynhyrchiant, o ran cynnal a chwblhau rhestrau o bethau i'w gwneud. Mae'n gweithio trwy wthio anogwyr trwy ymarferoldeb hysbysu presennol Android. Mae'r cynllun yn lleihau unrhyw darfu ar ymatebion hefyd, trwy ganiatáu i ymatebion gael eu gwneud heb newid cymwysiadau. Mae ymatebion yn dod i ben ar ôl cyfnod byr hefyd i osgoi bod o'r ffordd os nad ydynt yn doradwy.
Mae ImprompDo yn dysgu i wthio ar adegau mwy amserol y mwyaf y mae'r defnyddiwr yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn osgoi'r defnyddiwr yn gorfod creu negeseuon atgoffa â llaw, ac felly'n lleihau'r ymdrech sydd ei angen i gynnal amserlen. Cyflawnir hyn trwy ddefnyddio'r synwyryddion sydd ar y dyfeisiau mewn modd effeithiol o ran y batri, i ddod o hyd i atebion gwell ac ategu hyn gan ffactorau eraill, fel amser, i greu negeseuon atgoffa mwy clyfar.
Dywedodd Liam Turner, myfyriwr Doethuriaeth yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, sydd wedi creu'r ap ochr yn ochr â Dr Stuart Allen a'r Athro Roger Whitaker:
"Nid yw ImprompDo yn disodli eich gwasanaeth pethau i'w gwneud presennol. Yn lle hyn, mae'n ychwanegu haen arall o ymarferoldeb ochr yn ochr â'r negeseuon atgoffa sy'n seiliedig ar amser neu leoliad. Gobeithiwn y bydd y nodweddion yn rhoi ymagwedd ffres at natur doradwy defnyddwyr rhestrau pethau i'w gwneud presennol, ac yn gyfle i'r rheiny nad ydynt yn defnyddio rhestrau pethau i'w gwneud ar gyfer cynhyrchiant â chyn lleied o drafferth â phosibl."
Mae'r ap yn adrodd data anhysbys a ddefnyddir yn y broses ddysgu, at y diben o gynorthwyo ymchwil i natur doradwy. Ni ellir adnabod y data a adroddir yn bersonol, ac nid yw manylion cyfrifon gyda gwasanaethau rhestrau pethau i'w gwneud a gwybodaeth rhestrau pethau i'w gwneud (e.e. beth yw'r dasg) yn cael eu datgelu.
"Wrth symud ymlaen, rydym yn bwriadu defnyddio'r data i ddeall yn well natur doradwy ddynol o ran rhyngweithiadau oddi wrth ddyfeisiau symudol," meddai Liam. "Bydd hyn yn cyfrannu at ymchwil i systemau gwneud penderfyniadau deallus ym meysydd cynhyrchiant, ymyrraeth feddygol ac m-ddysgu.
"Y gwasanaethau a gynorthwyir ar hyn o bryd yw Todoist a Google Tasks. Mae'r cymorth ar gyfer gwasanaethau eraill yn gyfyngedig oherwydd diffyg cymorth ar gyfer apiau eraill sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth. Fodd bynnag, os yw'n bosibl yn dechnegol, a bod galw amdano, bydd cymorth yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau eraill yn cael ei ystyried."
Gellir lawrlwytho ImprompDo o Google Play: https://play.google.com/store/apps/details?id=uk.ac.cardiff.imprompdo