Cyhoeddi cyllid sylweddol i fyfyrwyr biowyddoniaeth GW4
6 Hydref 2014
Bydd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y De-orllewin Cynghrair GW4 yn elwa o fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC).
Cyhoeddodd Vince Cable fuddsoddiad sy'n werth £125 miliwn 'ar gyfer y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr i lywio economi'r dyfodol'. Bydd hyn yn ariannu hyfforddiant 1,250 o fyfyrwyr biowyddoniaeth mewn 12 o ganolfannau hyfforddiant doethurol yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys partneriaeth Cynghrair GW4.
Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd a Chadeirydd Cyngor GW4, "Dyma newyddion rhagorol i GW4 ac mae'n garreg milltir allweddol arall i'r Gynghrair. Mae'n dangos pa mor dda y mae'r pedair prifysgol yn cydweithio i ddod â mwy o gyllid i'r rhanbarth, ynghyd â chynyddu ein gallu o ran ymchwil.
Trwy ddarparu 114 o ysgoloriaethau ymchwil PhD dros y pum mlynedd nesaf, rydym yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o biodechnolegwyr a biowyddonwyr, y bydd eu gwaith yn cyfrannu at ymrwymiad Cynghrair GW4 i fynd i'r afael â heriau mawr byd-eang, fel sicrwydd bwyd."
Bydd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y De-orllewin, sy'n cynnwys prifysgolion GW4 Caerdydd, Caerfaddon, Bryste a Chaerwysg, ynghyd â'r sefydliad amaethyddol o enwogrwydd byd-eang, Rothamstead Research, yn derbyn £8 miliwn gan y BBSRC ar gyfer hyfforddiant arbenigol. Bydd y rhaglen newydd, o'r enw 'Biowyddorau'r De-orllewin/South West Bioscience' (SWBio), yn canolbwyntio ar hyfforddi mewn dau faes sydd â blaenoriaeth uchel: 'Amaethyddiaeth a Sicrwydd Bwyd' a 'Biowyddorau Sylfaenol o'r Radd Flaenaf'.
Meddai'r Athro Leo Brady, Cyfarwyddwr SWBio: "Mae ariannu'r rhaglen newydd hon o hyfforddiant doethurol yn adlewyrchu cryfder rhyngwladol yr ymchwil i'r biowyddorau yng Nghynghrair GW4. Bydd ein myfyrwyr yn elwa'n sylweddol o'r arbenigedd a'r cyfleusterau rhagorol sydd ar gael ar draws GW4."
Ychwanegodd Dr Andy Bailey, Cydlynydd Academaidd SWBio: "Bydd cyrsiau hyfforddiant ar y cyd a gweithgareddau rheolaidd ymhlith y garfan ar draws y consortiwm cyfan yn ategu hyfforddiant traddodiadol o ran ymchwil doethurol. Mae cynnwys Caerdydd yn y consortiwm newydd hwn yn agor cyfleoedd ymchwil newydd i'n myfyrwyr ac yn caniatáu am weithredu strwythur cyffredin ar gyfer cyrsiau, diolch i Gynghrair GW4."
Bydd myfyrwyr yn cofrestru ar raglen hyfforddi strwythuredig sy'n cynnwys unedau cyffredin mewn cyrsiau a addysgir a sesiynau labordy cyffredin ym Mlwyddyn Un, prosiect Ymchwil ym mlynyddoedd Dau i Bedwar, a hyfforddiant sgiliau estynedig drwy gydol pob un o'r pedair blynedd Hefyd, bydd lleoliad proffesiynol (interniaeth) tri mis gorfodol mewn maes sydd y tu hwnt i faes eu harbenigedd academaidd ym Mlynyddoedd Dau a Thri.
Mae manylion pellach i'w cael yn www.bristol.ac.uk/swdtp