Dickensian: tu ôl i'r llen
24 Awst 2016
Ymhlith yr hyn a gaiff ei arddangos ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd cyfle i gael cip y tu ôl i'r llen ar sut caiff y gyfres ddrama BBC o fri, Dickensian, ei chynhyrchu, yn ogystal â sesiwn holi ac ateb ag arbenigwyr ar Dickens.
Ysgrifennwyd y gyfres gan Tony Jordan, awdur uchel ei barch sydd wedi gweithio ar Eastenders, Life on Mars a Hustle ymhlith cyfresi eraill, a chafodd ei chynhyrchu gan Red Planet Pictures. Fe'i disgrifiwyd fel "ail-ddehongliad anhygoel o Dickens" gan The Independent, ac fe'i cymeradwywyd yn fawr pan gafodd ei lansio fis Rhagfyr 2015.
Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Prifysgol Caerdydd sy'n cynnal y digwyddiad, ac mae wedi'i llunio gan Red Planet ac Amgueddfa Charles Dickens. Bydd yn gyfle arbennig i ymwelwyr gael cip ar wisgoedd, propiau, deunydd cynhyrchu a rhannau o'r set, gan ddeall y grefft o greu'r lleoliadau, creu'r awyrgylch a dod â chymeriadau Dickensian yn fyw.
Cynhelir pytiau o sgwrs yng nghanol yr arddangosfa gan Louisa Price, curadur yr arddangosfa o Amgueddfa Charles Dickens, a'r Athro Holly Furneaux o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, a oedd yn gynghorydd llenyddol i'r gyfres.
Dywedodd yr Athro Furneaux: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu dod â rhan o'r gyfres Dickensian i Gaerdydd, p'un ai ydych wedi gwirioni at bopeth sy'n ymwneud â Dickens neu wedi mwynhau'r gyfres, mae rhywbeth yma i bawb ei fwynhau."
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyfle i glywed gan banel o arbenigwyr rhyngwladol ar Dickens, a fydd yn trafod gwaddol byd-eang gwaith Dickens. Bydd oriel ar-lein 'My Dickens', yn cael ei lansio hefyd, sy'n cynnwys casgliad nodweddiadol ar Dickens, a anfonwyd gan bobl sydd â diddordeb mewn Dickens ledled y byd.
Cynhelir Dickensian ar 30 Awst 2016 yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion, Prifysgol Caerdydd.