Lefelau boddhad cyffredinol yn parhau'n uchel
22 Awst 2016
Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi cofnodi sgôr o 89% am foddhad cyffredinol yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) 2016.
Cyhoeddir arolwg NSS yn flynyddol, ac mae'n gofyn i israddedigion sgorio eu profiadau yn y Brifysgol mewn gwahanol feysydd thematig gan gynnwys addysgu, cefnogaeth academaidd a datblygiad personol.
Eleni, sgoriodd yr Ysgol yn uchel yn y mannau canlynol:
- Mae’r staff yn esbonio pethau’n dda (100% yn cytuno)
- Mae’r cwrs wedi ei drefnu’n dda ac yn rhedeg yn esmwyth (96% yn cytuno)
- Mae’r cwrs yn ysgogi’r deall (96% yn cytuno)
Derbyniodd yr Ysgol ganlyniadau uchel mewn tri maes thematig allweddol - addysgu (94%), trefniadau a rheoli (90%) a datblygiad personol (90%).
Dywedodd Yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Mae canlyniadau arolwg NSS yn hollbwysig gan eu bod yn cynrychioli barn go iawn ein myfyrwyr. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad addysgol a bugeiliol rhagorol i bob myfyriwr ac rydym yn cymryd eu hadborth o ddifrif.
“Mae'n galonogol i weld lefelau boddhad uchel mewn nifer o feysydd a byddwn yn gweithio i gynnal a gwella'r rhain. Er gwaethaf canlyniadau cryf yn gyffredinol, mae’n amlwg bod yna feysydd lle mae angen ein sylw a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda'n myfyrwyr er mwyn codi lefelau boddhad.”
Mae boddhad ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn uchel (87%) gan gadarnhau ei statws fel un o'r goreuon yn y DU.