Cwmni deillio MedaPhor o Brifysgol Caerdydd, am dyfu ymhellach
17 Awst 2016
Mae cwmni deillio o Brifysgol Caerdydd a ddatblygodd efelychydd hyfforddiant uwchsain gorau'r byd, ar fin tyfu ymhellach ar ôl prynu busnes am £3m.
Mae'r cwmni wedi prynu busnes Inventive Medical Ltd o Lundain, sy'n gyfrifol am frand HealthWorks.
Mae'r busnes hwn, a sefydlwyd gan anasthesiolegwyr y galon yn Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain ac sy'n eiddo i Elusen Coleg Prifysgol Llundain, wedi datblygu technoleg efelychu a ddefnyddir mewn hyfforddiant uwchsain y galon.
Mae MedaPhor yn gwmni deillio o Brifysgol Caerdydd sydd wedi datblygu efelychydd hyfforddiant uwchsain ScanTrainer.
Disgwylir y bydd uno'r ddau gwmni'n golygu y caiff MedaPhor nwyddau hyfforddiant uwchsain ac ehangu ar y tîm gwerthu er mwyn gwerthu mewn marchnad ehangach ledled UDA, y DU ac Ewrop.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Medaphor, Stuart Gall: "Rydym wedi canolbwyntio ar bob rhan o'r corff, o'r pelfis hyd at yr asennau, ond nid ydym wedi gallu gwneud gwaith ar galonnau hyd yma.
"Mae gennym berthynas dda â HealthWorks ers blynyddoedd. Mae'r ddau fusnes yn mynd law yn llaw o ran meysydd arbenigol, ac mae'r uno yn ein galluogi i roi gwasanaeth mor gynhwysfawr â phosibl."
Yn ddiweddar, fe gododd y cwmni £3m drwy fusnes cyfrannau, ac ehangodd ei weithgarwch yng Ngogledd America drwy dîm gwerthu newydd a Bwrdd Obstetreg a Gynecoleg Americanaidd.
Ychwanegodd Stuart Gall: "Byddwn yn parhau i gadw llygad barcud ar fentrau y gallwn eu hychwanegu at ein busnes ni. Mae'n amser da i fod yng Nghaerdydd, ac rydym yn edrych ymlaen at ddyfodol y cwmni."