Hanes yr ymennydd dynol
12 Awst 2016
Mae tîm o dan arweiniad gwyddonwyr cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn awgrymu bod yr her o geisio pwyso a mesur statws cymharol unigolyn, a phenderfynu cydweithredu â nhw neu beidio, wedi helpu'r ymennydd dynol i dyfu'n gyflym dros y 2 filiwn o flynyddoedd diwethaf.
Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn Scientific Reports heddiw, mae'r tîm, sydd hefyd yn cynnwys y seicolegydd esblygol blaenllaw yr Athro Robin Dunbar o Brifysgol Rhydychen, wedi gweld bod y rhai sy'n fodlon helpu eraill ac sydd o leiaf yr un mor llwyddiannus â nhw, yn esblygu'n well.
Yn ôl prif awdur yr astudiaeth, yr Athro Roger Whitaker o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd: "Mae ein canlyniadau yn awgrymu bod cysylltiad cynhenid rhwng esblygiad cydweithredu, sy'n elfen allweddol mewn cymdeithas ffyniannus, â'r syniad o gymhariaeth gymdeithasol, hynny yw, pwyso a mesur pobl eraill yn barhaus a phenderfynu a ydynt am eu helpu ai peidio.
“Dros amser, rydym wedi gweld bod esblygiad yn ffafrio strategaethau sy'n helpu eraill sydd o leiaf mor llwyddiannus â nhw eu hunain.”
Yn eu hastudiaeth, defnyddiodd y tîm brosesau modelu cyfrifiadurol er mwyn cynnal cannoedd o filoedd o efelychiadau, neu 'gemau rhoi'. Y nod oedd mynd i'r afael â chymhlethdodau strategaethau penderfynu ymhlith bodau dynol syml, a cheisio gweld pam mae rhai mathau o ymddygiad ymysg unigolion yn dechrau cryfhau dros amser.
Ym mhob rownd o'r gêm rhoi, dewiswyd dau chwaraewr ar hap o'r boblogaeth ffug. Byddai'r chwaraewr cyntaf wedyn yn penderfynu a oedd am roi i'r chwaraewr arall ar sail sut oedd yn asesu ei enw da. Os oedd y chwaraewr yn dewis rhoi, byddai'n cael cost, a byddai'r chwaraewr arall yn cael budd. Wedi hynny, byddai enw da'r chwaraewr yn cael ei ddiweddaru ar sail yr hyn yr oeddent wedi penderfynu ei wneud, a byddai gêm arall yn dechrau.
O'i gymharu â rhywogaethau eraill, gan gynnwys ein perthnasau agosaf, y tsimpansîaid, mae'r ymennydd yn rhan llawer trymach o'r corff dynol. Bodau dynol hefyd yw'r mamaliaid sydd â'r cortecs ymenyddol mwyaf, o'i gymharu â maint eu hymennydd. Yn y rhan hon mae hemisfferau'r ymennydd sy'n gyfrifol am swyddogaethau uwch fel cofio, cyfathrebu a meddwl.
Mae'r tîm ymchwil yn awgrymu bod gwneud penderfyniadau cymharol drwy helpu eraill, wedi bod yn ddylanwadol yng ngoroesiad yr ymennydd dynol. Maent hefyd yn awgrymu bod y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â phwyso a mesur unigolion yn barhaus, wedi bod yn dasg ddigon cymhleth i helpu'r ymennydd i ehangu wrth i fodau dynol atgenhedlu dros sawl cenhedlaeth.
Yn ôl yr Athro Robin Dunbar, a gynigiodd ddamcaniaeth yr ymennydd cymdeithasol yn flaenorol: "Yn ôl damcaniaeth yr ymennydd cymdeithasol, mae'r ymennydd dynol yn anghymesur o fawr oherwydd bod pobl yn esblygu mewn grwpiau cymdeithasol mawr a chymhleth.
"Mae ein hymchwil newydd yn atgyfnerthu'r ddamcaniaeth hon ac yn dangos sut y gallai cydweithredu a gwobrwyo fod wedi bod yn elfen ganolog yn esblygiad yr ymennydd. Mae hefyd yn awgrymu y gallai'r her o bwyso a mesur pobl eraill fod wedi cyfrannu at yr ymennydd mawr sydd gan bobl."
Yn ôl y tîm, gallai'r ymchwil hefyd fod â goblygiadau yn y dyfodol ym maes peirianneg. Yn benodol, mae hyn yng nghyd-destun y sefyllfaoedd pan mae angen i beiriannau deallus ac annibynnol benderfynu pa mor hael y dylent fod i'w gilydd yn ystod rhyngweithiadau unigol.
"Gall ein modelau gael eu defnyddio fel algorithmau byr o'r enw hewristeg, gan ganiatáu i ddyfeisiau wneud penderfyniadau cyflym ynghylch sut maent yn cydweithredu," meddai'r Athro Whitaker.
"Bydd angen i dechnolegau annibynnol newydd, megis rhwydweithiau di-wifr a ddosberthir neu geir heb yrwyr, reoli eu hymddygiad eu hunain yn ogystal â chydweithredu ag eraill yn eu hamgylchedd."