Gwersi ar gyfer cadwraeth
11 Awst 2016
Mae gwyddonwyr sy'n ceisio ymladd yn erbyn clefyd amffibiaidd ar ddwy o ynysoedd y Caribî, wedi gweld rhywogaeth o froga yn prysur brinhau ac ar fin diflannu. Credir mai dyma un o'r dirywiadau cyflymaf erioed o rywogaeth gyfan ar gyfer unrhyw anifail.
Mae chytridiomycosis ('chytrid') eisoes wedi dinistrio cannoedd o rywogaethau amffibiaidd ledled y byd. Erbyn hyn, mae tîm o wyddonwyr cadwraeth, gan gynnwys ymchwilwyr o Ysgol Biowyddorau'r Brifysgol, wedi casglu tystiolaeth sy'n dangos bod y clefyd wedi lladd dros 85 y cant o frogaod y ffos (Leptodactylus fallax) ar Ynys Dominica dros gyfnod o ddeunaw mis. Roedd y sefyllfa yn waeth fyth ym Montserrat wrth i rywogaeth broga'r ffos yno fwy neu lai ddiflannu'n llwyr dros gyfnod tebyg.
Partneriaeth rhwng Cymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL), Ymddiriedolaeth Cadwraeth Bywyd Gwyllt Durrell a Sw Caer yw Rhaglen Adfer Brogaod y Ffos. Mae llywodraethau Dominica a Montserrat hefyd wedi cydweithio â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caint i olrhain poblogaethau'r brogaod hyn ar y ddwy ynys cyn, yn ystod, ac ar ôl i glefyd chytrid ddod i'r amlwg. Roedd y data a gasglwyd ganddynt yn galluogi ymchwilwyr i lunio darlun clir dros gyfnod o amser oedd yn dangos effaith ddinistriol y clefyd ar y rhywogaeth hon. Roedd hefyd yn fodd o olrhain sut mae'r cwymp dramatig hwn ym maint y boblogaeth wedi amharu'n sylweddol ar amrywiaeth genetig brogaod y ffos sy'n weddill ar Dominica. Mae'r data hefyd yn codi cwestiynau pwysig ynghylch effeithiolrwydd ymdrechion presennol i atal y pandemig.
Mae ZSL, Durrell a Sw Caer wedi bod yn gweithio gyda llywodraethau'r ddwy ynys er mwyn atal y rhywogaethau rhag diflannu. Mae bridio mewn caethiwed yn elfen bwysig o'r rhaglen adfer hon, ac mae'n hanfodol bod y brogaod a ddefnyddir i fridio yn gynrychiolaeth dda o amrywiaeth genetig y rhywogaethau yn y gwyllt. Fel rhan o'r prosiect hwn, bu tîm ymchwil o Brifysgol Caerdydd, o dan arweiniad yr Athro Mike Bruford a Dr Pablo Orozco-terWengel, yn astudio amrywiaeth genetig brogaod y ffos yn Dominica a Montserrat, yn ogystal â'r boblogaeth gaeth a ddefnyddir yn y rhaglen adfer.
Wrth esbonio canlyniadau'r astudiaeth, dywedodd Josie D'Urban Jackson, sy'n fyfyriwr PhD yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd a gynhaliodd y dadansoddiad genetig:
"Mae'r cwymp trychinebus yn y boblogaeth a achoswyd gan glefyd ffwngaidd marwol chytrid, wedi lleihau amrywiaeth genetig brogaod y ffos yn sylweddol ym Montserrat a Dominica.
Fodd bynnag, mae'r astudiaeth wedi dangos bod yr amrywiaeth genetig yn y boblogaeth gaeth, yn gynrychiolaeth dda o'r boblogaeth wyllt. Bydd hyn o gymorth i'r broses o fridio'r rhywogaeth yn gaeth a'i hatal rhag diflannu."
Dywedodd prif awdur yr astudiaeth, Michael Hudson - sy'n gweithio ar draws Sefydliad Sŵoleg ZSL (IoZ), Durrell a Phrifysgol Caint – "Mae'n bosibl bod y canfyddiadau hyn o Dominica a Montserrat yn rhoi'r dystiolaeth amlycaf hyd yma o ba mor frawychus o gyflym y mae clefyd chytrid yn dinistrio amrywiaeth genetig poblogaethau amffibiaidd ledled y byd, ac yn gyrru llawer o rywogaethau tuag at ddifodiant."
Mae'r canfyddiadau yn y papur hwn yn cwestiynu gallu gwledydd i gyrraedd targedau cadwraeth bioamrywiaeth a bennwyd gan Gonfensiwn Amrywiaeth Biolegol y Cenhedloedd Unedig. Mae'r papur hefyd yn amlygu pwysigrwydd ymgorffori dadansoddiad genetig mewn rhaglenni cadwraeth rhywogaethau sydd o dan fygythiad er mwyn llywio sut y rheolir bridio caeth a deall effaith gostyngiadau mewn poblogaethau yn well.
Cyhoeddir yr ymchwil ‘Dynamics and genetics of a disease-driven species decline to near extinction: lessons for conservation’ yn Scientific Reports.