Y Brifysgol yn cefnogi rhedwyr dibrofiad
11 Awst 2016
Mae grŵp rhedeg newydd wedi'i sefydlu yn Grangetown ar ôl i Brifysgol Caerdydd fod yn un o brif noddwyr Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd yng Nghaerdydd.
Cafodd grŵp rhedeg Run Grangetown ei sefydlu gyda chymorth Prosiect Ymgysylltu Porth Cymunedol y Brifysgol ac mae'n cynnwys pobl a redodd am y tro cyntaf yn Hanner Marathon y Byd.
Yn awr, mae'r dechreuwyr wedi rhoi eu bryd ar Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul 2 Hydref, a noddir gan Brifysgol Caerdydd.
Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi gyntaf ym mis Awst ac mae sesiynau rhedeg eraill wedi'u trefnu.
Dywedodd Ali Abdi, Rheolwr Partneriaethau'r Porth Cymunedol ac aelod o Run Grangetown: "Mae pob un ohonom yn rhedwyr dibrofiad ac er nad yw'n debygol y byddwn yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd cyn bo hir, rydyn ni'n griw brwdfrydig.
"Ar ôl rhedeg Hanner Marathon y Byd, roedd llawer ohonom am gadw'r momentwm, felly fe wnaethom benderfynu cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd.
"Bydd y grŵp rhedeg newydd yn ein hannog i redeg yn rheolaidd a hyfforddi gyda rhedwyr newydd eraill. Mae'n hwyl, mae'n gymdeithasol, ac mae'n helpu ni i gadw'n heini.”
Cefnogir pob sesiwn gan Borth Cymunedol, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Run Wales a Gwirfoddoli Caerdydd, gydag arweinydd grŵp yn cydlynu'r gweithgareddau.
Er bod Porth Cymunedol wedi helpu Run Grangetown hyd yn hyn wrth ei sefydlu, y nod yw bod y rhedwyr eu hunain yn cymryd drosodd.
Mae Porth Cymunedol yn ariannu dau le ar gwrs Arweinyddiaeth mewn Ffitrwydd Rhedeg (LiRF) a fydd yn darparu sgiliau i arweinwyr i ddarparu sesiynau diogel a hwyl i grwpiau aml-allu.
Bydd arweinwyr yn dysgu sut i roi cyngor a chymorth i redwyr newydd, yn ogystal â datblygu llwybrau ar gyfer y rhai sy'n awyddus i wella.
Bydd Jemma White, sydd wedi cael lle ar y cwrs Arweinyddiaeth, yn rhedeg yn Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd ac mae hi am annog pobl eraill i fwynhau rhedeg.
Dywedodd Jemma: "Rwy'n teimlo'n gyffrous fy mod yn cwblhau'r dystysgrif Arweinyddiaeth, er mwyn i mi helpu'r grŵp i gael ei sefydlu a chefnogi pobl i fynd allan a rhedeg, ni waeth beth yw eu nod.
"Ar ôl cwblhau Hanner Marathon y Byd ym mis Mawrth drwy Borth Cymunedol, fy nod nesaf yw ras trywydd 10km ac wedyn Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref.
"Rwy'n siŵr y bydd Run Grangetown yn fy helpu i guro fy amser targed!"
Porth Cymunedol yw un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol. Caiff hefyd ei alw'n rhaglen Trawsnewid Cymunedau.
Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt mewn meysydd sy’n cynnwys iechyd, addysg a lles.
Gall unrhyw un a hoffai ymuno â Run Grangetown gael rhagor o wybodaeth yma neu cysylltwch â'r grŵp drwy ei dudalen Facebook.