Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2016
10 Awst 2016
Mae boddhad cyffredinol myfyrwyr blwyddyn olaf Prifysgol Caerdydd ag ansawdd eu hastudiaethau yn parhau'n uchel, yn ôl arolwg newydd.
Dengys canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2016, a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Mercher 10 Awst 2016), bod 87% o'r israddedigion ar eu blwyddyn olaf a gwblhaodd yr arolwg blynyddol yn fodlon â'u profiad myfyrwyr yn gyffredinol.
Cawsom ein sgor uchaf erioed y llynedd o ran boddhad y myfyrwyr (90%) ac, er gwaethaf y gostyngiad eleni, mae lefel y boddhad yn parhau'n uchel ac yn gyfartal â'r sector Addysg Uwch a'r cyfartaledd yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Patricia Price, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd: "Yn flynyddol, mae Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn cynnig cipolwg hynod o ddefnyddiol ar deimladau'n myfyrwyr blwyddyn olaf ar ddiwedd eu hastudiaethau israddedig.
"Fel Prifysgol, rydym yn gosod disgwyliadau uchel iawn arnom ein hunain, felly, wrth reswm, rydym yn siomedig bod lefelau boddhad cyffredinol ychydig yn is y tro hwn – yn arbennig yn dilyn ein sgôr uchaf erioed y llynedd.
"Nawr, yr hyn sy'n bwysig yw inni fyfyrio ar ganlyniadau eleni, a gweithio gyda'n myfyrwyr i gynyddu lefelau boddhad yn y dyfodol.
"Rydym yn benderfynol o wneud ein profiad myfyrwyr yn ddiarhebol o ragorol."
Cyhoeddir Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn flynyddol, ac mae'n gofyn i israddedigion asesu eu profiadau yn y Brifysgol mewn meysydd gan gynnwys safon addysgu, cefnogaeth academaidd a datblygiad personol.
Mae'r canlyniadau'n dangos eu bod yn parhau'n fodlon ar Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (87%), gan gadw ei safle fel un o'r goreuon yn y DU.
Fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i wella profiad myfyrwyr, cyhoeddwyd rhaglen fuddsoddi bum mlynedd mewn adeiladau a mannau dysgu.
Mae'r rhaglen yn cynnwys Canolfan Bywyd y Myfyrwyr blaenllaw newydd, gwaith gwella helaeth ar ddarlithfeydd, ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd seminar yn ogystal â chynnig y cyfarpar sain a gweledol diweddaraf, a seddi cyfforddus.
Mae'r Brifysgol hefyd wrthi'n buddsoddi yn y gwasanaethau llyfrgell presennol gan gynnwys cynnig oriau agor estynedig.
Ychwanegodd yr Athro Price: "Mae ein myfyrwyr yn disgwyl y cyfleusterau a'r addysg orau ym mhob elfen o'u hastudiaethau yma yng Nghaerdydd.
"Lai nag wythnos yn ôl, fe wnaethom gais cynllunio i adeiladu ein Canolfan Bywyd y Myfyrwyr blaenllaw. Mae hyn yn ychwanegol at y buddsoddiadau sylweddol mewn cyfleusterau llyfrgell a darlithio presennol, y mae myfyrwyr presennol eisoes yn cael budd ohonynt.
Nid yw'r gwaith eto wedi ei orffen, ond rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfleusterau astudio rhagorol i fyfyrwyr.
“Rydym yn ymfalchïo yn y cysylltiad agos rhwng ein myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol, ac rydym yn cydweithio i wella profiad myfyrwyr yng Nghaerdydd.”
Mae strategaeth Y Ffordd Ymlaen yn rhoi targed i'r Brifysgol o gyrraedd 90% ar gyfer boddhad cyffredinol ym mhob Ysgol, ac 80% ar gyfer boddhad yn y categori asesiad ac adborth erbyn 2017.