Sioned James (1974 – 2016)
1 Awst 2016
Gyda thristwch mawr y clywyd am farwolaeth un o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol, yr arweinydd corawl Sioned James, yn 41 oed.
Daeth Sioned yn fyfyriwr i’r Ysgol yn 1994, gan raddio â gradd dosbarth cyntaf yn 1997. Roedd yn gymeriad hwyliog, llawn bwrlwm a oedd wastad yn barod ei sgwrs. Roedd iddi yn ogystal ddeallusrwydd a dawn gerddorol amlwg, ac ysai am gael gwneud cyfraniad pellgyrhaeddol i fyd cerddorol a diwylliannol Cymru, ac i fyd cerddoriaeth gorawl yn arbennig.
Bu’n aelod o sawl côr cyn dod i’r Brifysgol, ac wedi iddi raddio aeth ati yn 2000 i sefydlu côr cymysg Cymraeg yn y brifddinas, sef Côrdydd. Dros y blynyddoedd bu sawl aelod o staff yr Ysgol a’i myfyrwyr yn aelodau o’r côr, ac fe dyfodd yn un o gorau mwyaf llwyddiannus Cymru, gan ennill bri ar lwyfannau yng Nghymru a’r tu hwnt.
Ynghyd ag arwain Côrdydd, bu Sioned yn weithgar dros ben yn y byd corawl Cymraeg, gan arwain Côr y Mochyn Du yng Nghaerdydd am sawl blwyddyn. Roedd, yn ogystal, yn gefnogol iawn ac yn barod ei chyngor i arweinyddion eraill, yn arbennig gôr Aelwyd y Waun Ddyfal, a sefydlwyd gan rai o gyn-fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg ac sy’n dal â chysylltiadau agos â’r Ysgol hyd heddiw.
Hoffai’r Ysgol estyn ei chydymdeimlad dwysaf â theulu Sioned yn y cyfnod anodd hwn.