Sut oedd ein hynafiaid canoloesol yn byw?
5 Awst 2016
Bydd archeolegydd o Brifysgol Caerdydd yn arwain ymchwil archeolegol mewn prosiect sy’n torri tir newydd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, gan gyfuno tystiolaeth archaeolegol a hanesyddol.
Nod Dr Ben Jervis o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a Dr Chris Briggs o Gyfadran Hanes Prifysgol Caergrawnt, fydd torri tir newydd yn yr astudiaeth sydd ar raddfa eang.
Bydd Safonau byw a diwylliant materol mewn cartrefi gwledig yn Lloegr, 1300-1600 yn taflu goleuni newydd ar safonau byw, beth oeddent yn ei fwyta, a’r systemau oedd yn dynodi gwerth ymysg pobl canoloesol. Caiff hyn ei wneud drwy integreiddio tystiolaeth newydd o feysydd archaeolegol a hanesyddol yn yr astudiaeth gyntaf o'i math.
Bydd y prosiect £319,000 yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth archeolegol a hanesyddol newydd i fynd i'r afael â thri chwestiwn ymchwil craidd:
- Pa nwyddau oedd gan bobl gyffredin yng nghefn gwlad?
- I ba raddau ac ym mha ffyrdd y gwnaeth nifer, math a gwerth yr eiddo hyn amrywio dros amser a lleoliad?
- Pa mor wahanol oedd eiddo’r gwerinwyr o’i gymharu ag eiddo’r uchelwyr aristocrataidd a phobl y dref?
Bydd y prosiect yn astudio gwrthrychau o gloddiadau archeolegol a’r rhai y mae’r cyhoedd o siroedd penodol ledled Lloegr wedi dod ar eu traws a rhoi gwybod i’r Cynllun Hynafiaethau Symudol amdanynt. Mae'r rhain yn cynnwys eitemau amrywiol fel potiau coginio, gemwaith ac offer amaethyddol.
Drwy gyfuno’r broses o astudio’r gwrthrychau hyn ac astudio cofnodion hanesyddol, bydd modd deall y berthynas rhwng effaith newidiadau cymdeithasol fel y Pla Du ar safonau byw, cyfoeth materol a chanfyddiadau canoloesol o werth.
Cofnodion cymharol anhysbys gan swyddog brenhinol canoloesol, y siedwr, yn yr Archifau Cenedlaethol, yw’r ffynonellau hanesyddol ysgrifenedig pwysicaf a gaiff eu defnyddio.
Un o ddyletswyddau’r siedwr oedd gweithredu'r hawl brenhinol i gymryd tiroedd, nwyddau ac eiddo troseddwyr (gan gynnwys mewn achosion o hunanladdiad), ffoaduriaid a herwyr. Mae’r rhestrau a luniwyd yn sgil hynny o nwyddau ac eiddo personol a gafodd eu cymryd gan y Goron, yn gofnod pwysig o eiddo personol. Mae’r rhain yn cynnwys da byw a bwyd ar eu cyfer, yn ogystal â’r hyn a fyddai’n cyfateb i incwm gwario canoloesol - unrhyw gyfoeth personol presennol.
Dywedodd y Darlithydd mewn Archaeoleg, Dr Ben Jervis, sy'n arbenigo mewn archaeoleg canoloesol Prydain a dadansoddi serameg: "Rydym yn gynyddol ymwybodol o natur fasnachol cymdeithas ganoloesol. Bydd yr astudiaeth hon yn ein galluogi i ddeall y dewisiadau yr oedd pobl ganoloesol yn eu gwneud fel defnyddwyr drwy ofyn pa fathau o nwyddau oedd yn bwysig iddynt ac edrych ar yr hyn sy’n debyg neu’n annhebyg rhwng ‘diwylliant defnyddwyr’ canoloesol a modern.
“Yr hyn sy’n gwneud y prosiect hwn yn arbennig o bwysig yw’r dadansoddiad cyfunol o ddata hanesyddol ac archaeolegol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cael dealltwriaeth gynhwysfawr o ddatblygiadau mewn safonau byw canoloesol.”
Bydd y prosiect 36 mis yn dechrau yn hydref 2016.