Ewch i’r prif gynnwys

Ydy’r Bil Cymru newydd yn addas i’r diben?

4 Awst 2016

Senedd - iStock

Cynhaliodd Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd drafodaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru i asesu fersiwn ddiweddaraf Bil Cymru.

Roedd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad gan Manon George o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, arbenigwr mewn cyfraith gyfansoddiadol, a Dr Huw Pritchard, sy’n arbenigo mewn cyfraith datganoli yng Nghymru.

Yn ystod eu cyflwyniad, cafwyd dadansoddiad o elfennau allweddol o’r Bil yn ogystal â thrafodaeth am y goblygiadau posibl i gyfansoddiad Cymru yn y dyfodol.

Mae Bil Cymru, 'a ddyluniwyd i baratoi’r ffordd dros y degawdau nesaf’, yn addasu cytundeb datganoli Cymru drwy symud i’r model cadw pwerau yn ôl, tebyg i system yr Alban, lle gall y ddeddfwrfa ddatganoledig ddeddfu ar unrhyw fater ac eithrio’r rhai sydd wedi’u cadw’n benodol i Senedd y DU.

Fodd bynnag, dyma'r ail ymgais gan Swyddfa Cymru i gyflwyno ‘cytundeb datganoli cryfach, mwy eglur a thecach i Gymru fydd yn sefyll prawf amser'.

Meddai Manon George: "Cafodd y Bil ei feirniadu’n hallt am y rhestr hirfaith o faterion oedd wedi’u cadw’n ôl, sut mae’n ymestyn cysyniadau Gweinidog y Goron a’r ‘prawf angenrheidrwydd’ dadleuol, a bod hyn oll yn cael eu hystyried fel cam yn ôl i bwerau’r Cynulliad.

"Mae nifer o broblemau sy’n gysylltiedig Bil diweddaraf. Nid yw swyddogaethau gweithredol wedi’u trosglwyddo’n gyffredinol mewn meysydd datganoledig ac mae dros 200 o faterion wedi’u cadw’n ôl o hyd a phrofion newydd ar gyfer deddfwriaeth y Cynulliad.

Ychwanegodd Dr Pritchard: "Mae angen rhoi sylw i rai meysydd o bwys, fel yr angen i roi awdurdodaeth ar wahân i Gymru ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Dylid hefyd ystyried y goblygiadau gadael yr UE ar y Bil yn dilyn refferendwm yr UE.

"Mae’r ansicrwydd o ganlyniad y bleidlais i adael yr UE, a’r ffaith y bydd angen ystyried y pwerau a allai gael eu dychwelyd i Gymru, olygu go brin y bydd Bil Cymru yn gytundeb hirdymor ar gyfer cyfansoddiad Cymru."

Fodd bynnag, er gwaethaf yr ansicrwydd yn sgil y bleidlais i adael yr UE, mae Dr Pritchard yn obeithiol o hyd: “Mewn rhai ffyrdd, mae Bil Cymru yn gam ymlaen.  Cyn bo hir, bydd y Cynulliad yn rhan parhaol o drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Bydd yn gallu newid ei enw a chael pwerau dros gyfraddau treth incwm heb fod angen refferendwm."

Mae rhestr o holl ddigwyddiadau’r Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar gael yma.