Safbwyntiau ar Aberfan
4 Awst 2016
Hanner can mlynedd ar ôl trychineb Aberfan, pan gafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd, bydd Prifysgol Caerdydd yn dod â goroeswyr, newyddiadurwyr ac academyddion i drin a thrafod sut mae’r bobl yr effeithiwyd arnynt a'r cyfryngau wedi adrodd stori’r drychineb.
Bydd Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol y Brifysgol yn cynnal cynhadledd undydd fydd yn edrych ar faterion sensitif, gan gynnwys y sylw gan y cyfryngau a’r trawma, a’u heffaith ar bentref Aberfan ar y pryd a hyd heddiw.
Bydd I C (Chuck) Rapoport, newyddiadurwr ffotograffig blaenllaw a dynnodd luniau o Aberfan ar gyfer cylchgrawn Life, a Gaynor Madwick, a oroesodd y drychineb, ymhlith y siaradwyr fydd yn egluro sut mae’r drychineb wedi cael sylw a’i chofio, yn ogystal â sut gall y cyfryngau a’r gymuned yr effeithiwyd arni symud ymlaen.
Bydd Vincent Kane, cyn-newyddiadurwr y BBC fu’n gohebu ar y drychineb, a’r awdur Louise Walsh sydd wedi datgelu archifau pwysig sy’n dangos sut y gwnaeth y cyfryngau gamadrodd ar Aberfan, hefyd ymhlith y siaradwyr.
James Stewart o’r Ysgol sy’n trefnu’r digwyddiad: “Mae Aberfan yn parhau i fod yn bwnc hynod sensitif, ond rydym o’r farn ei bod yn briodol ystyried sut mae’r drychineb wedi’i chofio, y sylw a roddwyd i’r gymuned a sut cafodd ei chamgynrychioli. Mae gan nifer o’r rhai sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad gysylltiad agos â’r stori a byddant yn gallu taflu goleuni ar sawl peth.”
Cynhelir Aberfan – Cofio, Anghofio a Symud Ymlaen: Trafodaeth ddydd Iau 8 Medi 2016. Fe’i cynhelir yn Adeilad Bute rhwng 9am a 6pm. Mae tocynnau’n rhad ac am ddim ond rhaid cadw lle yma.