Cyfraniad Rhagorol at Fydwreigiaeth
12 Awst 2016
Mae'r Athro Billie Hunter, sy'n Fydwraig ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cael gwobr genedlaethol gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM), am ei chyfraniad at wasanaethau mamolaeth a bydwreigiaeth.
Mae'r Athro Hunter, Athro Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cael Cymrodoriaeth RCM*. Mae hyn i gydnabod ei chyfraniad eithriadol at fydwreigiaeth mewn meysydd fel cadernid proffesiynol bydwragedd a hanes llafar bydwreigiaeth. Derbyniodd ei gwobr yr wythnos ddiwethaf mewn seremoni yn Narlithfa Goffa Zepherina Veitch, Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn Leeds.
Mae Cymrodoriaeth y Coleg yn cydnabod unigolion sy'n rhoi arweiniad eithriadol ac sy'n cyflwyno arloesedd a rhagoriaeth mewn ymarfer, addysg neu ymchwil ym maes bydwreigiaeth. Y nod yw amlygu ac arddangos gwaith sy'n gwella gofal i fenywod, babanod a'u teuluoedd.
Yn ogystal â'i gwaith yn y DU, mae gan yr Athro Hunter enw da yn rhyngwladol hefyd, ac mae'n darlithio ar draws y byd. Hi yw Cyfarwyddwr Canolfan Cydweithredu Bydwreigiaeth Ewrop, Sefydliad Iechyd y Byd. Mae hefyd yn Gadeirydd Ymweliadol ym mhrifysgolion Nottingham a Surrey, ac yn y Brifysgol Technoleg yn Sydney, Awstralia.
Mae'r Athro Hunter wedi bod yn fydwraig ers 1979, gan weithio yn y GIG, y sector gwirfoddol ac mewn lleoliadau bydwreigiaeth annibynnol, cyn symud i fyd addysg ac ymchwil ym 1996.
Meddai'r Athro Hunter: "Pleser o'r mwyaf yw cael y wobr hon a bod yn un o gymrodyr cyntaf y Coleg. Mae'n anrhydedd enfawr. Hoffwn ddiolch i bob un o fy nghydweithwyr a'r myfyrwyr sydd wedi cefnogi'r prosiectau amrywiol a arweiniodd at y fraint hon. Diolch hefyd i'r llu o fenywod a bydwragedd sydd wedi cyfrannu eu harbenigedd at fy mhrosiectau ymchwil. Gyda lwc, gallaf ddefnyddio fy nghymrodoriaeth i barhau i gefnogi bydwragedd gyda'u gwaith amhrisiadwy, gan wella gofal i fenywod, babanod teuluoedd yn sgîl hynny."
Meddai'r Athro Lesley Page, Llywydd Coleg Brenhinol y Bydwragedd: "Mae gwaith Billie mewn llawer o feysydd yn cael effaith go iawn ar y gofal a gyflwynir gan fydwragedd. Yn benodol, mae ganddi ymwybyddiaeth emosiynol ym maes bydwreigiaeth ac o bwysigrwydd 'gofalu am y gofalwyr'. Mae ei diddordeb mewn hanes bydwreigiaeth hefyd wedi amlygu etifeddiaeth, hanes hir a chyfraniad bydwragedd. Rwyf wrth fy modd ei bod wedi cael yr anrhydedd hwn."