Golwg ar Gaerdydd i gynrychiolwyr o Tsieina
3 Awst 2016
Mae grŵp o weithwyr proffesiynol o brifysgolion yn Tsieina wedi cael y cyfle i glywed yn uniongyrchol am yr heriau a'r uchafbwyntiau sy’n gysylltiedig ag arwain un o brifysgolion Grŵp Russell.
Mewn digwyddiad rhwydweithio i gynrychiolwyr ar Raglen Rheoli Ysgoloriaethau Tsieina Prifysgol Caerdydd, siaradodd y Llywydd a’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, am ei brofiadau yn datblygu ac yn gweithredu strategaeth Prifysgol Caerdydd, Y Ffordd Ymlaen.
Clywodd y grŵp am rai o'r prif heriau yr oedd yr Athro Riordan wedi’u hwynebu ar hyd y daith. Soniodd hefyd am roi strategaeth newydd y Brifysgol ar waith a sut mae’r Brifysgol yn datblygu ei chysylltiadau â Tsieina.
Daeth y digwyddiad i ben drwy gyfnewid anrhegion, ac fe gyflwynodd y grŵp anrheg arbennig i’r Athro Riordan i gynrychioli llwyddiant a chyfeillgarwch.
Mae’r 36 o weithwyr proffesiynol o bob rhan o Tsieina, hanner ffordd trwy raglen datblygiad proffesiynol 12 wythnos o hyd. Mae’r rhaglen yn fodd o ddiweddaru eu gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau gan gynnwys rheoli newidiadau, adnoddau dynol a datblygu timau academaidd.