Ymchwil yn bwrw goleuni ar ddyfais hynafol
2 Awst 2016
Mae’r Athro Mike Edmunds, athro emeritws astroffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi bod yn rhan o dîm sy’n gweithio i ddadgodio’r arysgrif ar y ddyfais hynafol, y credir ei bod wedi’i gwneud rhwng 200 CC a 70 CC, i geisio dysgu sut i ddefnyddio’r ddyfais.
Fe’i canfuwyd o longddrylliad ym 1900 gan blymwyr sbyngau oddi ar arfordir ynys Antikythera yng ngwlad Groeg.
Defnyddiodd y tîm, sef Prosiect Ymchwil y Ddyfais Antikythera (AMRP), sganiau pelydr-x i ddarllen tua 3,400 o nodau ar yr arwynebau a oroesodd ar y ddyfais, gan ganfod y’i defnyddiwyd fel calendr, yn ogystal ag fel dull o ragfynegi eclips y lleuad.
Canfu ymchwil y tîm fod yr arysgrif yn sôn am yr haul a’r lleuad, ond cadarnhaodd hefyd symudiadau’r planedau yn ogystal ag amseru a lliw eclips.
Yn fwyaf arwyddocaol, y diddordeb hwn mewn lliwiau yw’r arwydd cyntaf bod y ddyfais o bosibl wedi’i defnyddio, nid yn unig mewn seryddiaeth, ond astroleg hefyd - y system o ragfynegi digwyddiadau ar y Ddaear yn seiliedig ar symudiadau a lleoliad y sêr a’r planedau.
Roedd y cysylltiad ag astroleg yn syndod i’r ymchwilwyr, gan fod swyddogaethau eraill y ddyfais yn ymwneud â seryddiaeth neu’n gysylltiedig â chalendr gan ddefnyddio enwau cyffredin misoedd y flwyddyn, yn ogystal â chofnodi amseru digwyddiadau athletau fel y gemau Olympaidd.
Gan siarad mewn cyflwyniad arbennig yn Athen, eglurodd yr Athro Edmunds fod arddull ffurfiol, fanwl yr ysgrifennu’n golygu ei bod yn fwy na dyfais i ddiddanu.
“Mae’n llawer pwysicach o ddyfais na thegan,” meddai.
Mae’r ymchwilwyr hefyd wedi defnyddio’r arysgrif i ddysgu bod y ddyfais fwy na thebyg o ynys Rhodes, ac y gallai tîm fel gweithdy teuluol neu fusnes fod wedi’i gwneud, gan fod amryw rannau o’r arysgrif yn ymddangos fel petai pobl wahanol wedi’u gwneud.
Daeth yr Athro Edmunds i’r casgliad: “Ni wyddom ei phwrpas. Gallai fod yn ddatganiad yn dweud mai dyma’r hyn a wyddom am y bydysawd, ond p’un ai a ydyw i’w rhoi uwch aelwyd dyn cyfoethog, mewn ysgol neu academi, neu mewn teml, wyddom ni ddim.”