Casgliad o farddoniaeth am Aber-fan yn procio'r atgofion
1 Awst 2016
Roedd yr Athro E Wyn James yn ei arddegau pan gafodd ei ysgol gais am gymorth i ddelio â chanlyniadau trychineb Aber-fan.
"Roeddwn i newydd gyrraedd yr ysgol y bore hwnnw pan ddaeth galwad i fechgyn y pumed a’r chweched dosbarth fynd ar frys i Aber-fan gan fod rhywbeth dychrynllyd wedi digwydd,” meddai’r Athro James.
Felly anfonwyd y llanc 16 oed a’i gyfoedion o’u hysgol ym mhentref cyfagos Edwardsville yng nghwm Merthyr.
“Ar y pryd doedden ni ddim yn gwybod hyd a lled yr hyn oedd wedi digwydd, ond daeth hynny’n amlwg iawn pan gyrhaeddon ni.”
Dechreuon nhw weithio ar unwaith, yn rhan o’r ymgais i dynnu’r gwastraff glo o safle’r drychineb yn y gobaith y byddai rhywrai’n dal yn fyw.
"Roedden ni ar ffurf cadwyn yn pasio bwcedi’n ôl o adfeilion yr ysgol gynradd.”
Roedd gwastraff o bwll glo cyfagos wedi bod yn cronni ar ochr y mynydd uwchlaw Aber-fan ers blynyddoedd.
Ar 21 Hydref 1966 ychydig funudau yn unig y cymerodd hi i’r tip lithro i lawr y mynydd a chladdu’r ysgol leol. Bu farw 116 o blant a 28 o oedolion yn y drychineb.
Mae’r Athro James, o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi treulio llawer o amser yn ddiweddar yn myfyrio am ddigwyddiadau’r diwrnod ofnadwy hwnnw.
Mae’r Athro James, a’i wraig Christine James, bardd ac athro yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, newydd gyhoeddi casgliad o gerddi am y drychineb i nodi ei hanner can mlwyddiant.
Dywedodd fod gweithio ar y gyfrol wedi bod yn brofiad hyd yn oed yn fwy emosiynol nag yr oedd wedi’i ddisgwyl.
“Er na chollais i unrhyw aelod agos o’r teulu fel y gwnaeth rhai o’m ffrindiau, creodd y profiad ryw fferu emosiynol am flynyddoedd,” meddai.
Un emosiwn cryf mae’n ei deimlo yw dicter am y drychineb, a’r modd y caniatawyd i’r tipiau gronni ar y mynydd uwchlaw’r ysgol.
“Fel y nododd un erthygl olygyddol ar y pryd, fydden nhw byth wedi gadael i dipiau gwastraff o’r fath gysgodi dros Eton neu Harrow,” meddai.
Bydd yr Athro James yn sôn am ei atgofion o’r drychineb ac yn trafod y casgliad o 80 o gerddi, Dagrau Tost, gyda’r Athro Christine James yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 11:00 a 12:00 yn y Lolfa Lên ddydd Mawrth 2 Awst.
Mae’r casgliad yn cynnwys barddoniaeth o gyfnod y drychineb hyd at gerddi a luniwyd yn ystod y misoedd diwethaf.
Dywedodd yr Athro James mai dau o’r beirdd mwyaf nodedig yn y gyfrol yw D Gwenallt Jones a T Llew Jones.
“Gwenallt oedd yr amlycaf o blith y beirdd Cymraeg a ganai am fywyd yng nghymoedd diwydiannol de Cymru,” meddai’r Athro James.
“Cyhoeddodd gerdd hir am Aber-fan flwyddyn ar ôl y drychineb, ac mae lle canolog i’r gerdd honno yn y casgliad.”
“Mewn sawl ffordd dyma oedd ei ddatganiad olaf ar ddioddefaint a dewrder pobl y cymoedd.”
Dywedodd yr Athro James fod cerdd drawiadol arall yn y casgliad o waith T Llew Jones, athro o Geredigion ac un o awduron pwysicaf llenyddiaeth plant yn y Gymraeg.
Darlledwyd y gerdd ar ddiwedd rhaglen newyddion yn y dyddiau’n dilyn y drychineb, ac ynddi mae T Llew Jones yn cymharu’r plant yn y chwedl enwog am dref Hamelin â phlant Aber-fan.
“Er bod cerddi’r gyfrol yn ymateb i’r drychineb mewn ffyrdd amrywiol, mae’r prif ffocws ar y ffaith bod cynifer o blant wedi marw yn y drychineb honno.”