Darlithydd yn cipio’r Gadair yn Eisteddfod Môn
4 Mehefin 2016
Mae Dr Llion Pryderi Roberts, darlithydd a Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn Ysgol y Gymraeg, wedi ennill Cadair Eisteddfod Môn, Paradwys a'r Cylch 2016.
Dyma’r ail waith iddo gipio cadair Eisteddfod Môn ar ôl iddo ddod i’r brig yn Aberffraw yn 2003.
Gofynnwyd i ymgeiswyr gyflwyno casgliad o gerddi caeth neu rydd ar y testun Paradwys.
Nododd un o feirniaid y gystadleuaeth, Derec Llwyd Morgan, am gasgliad Llion: “… ef sy’n mynegi’i brofiadau orau mewn geiriau ffres, mewn darluniau annisgwyl, mewn amrywiaeth o fesurau.”
Dywedodd Llion: “Mae’r casgliad o gerddi yn deillio o brofiadau personol a theuluol yn ei hanfod, ond fy ngobaith oedd creu cerddi y gallai unrhyw un uniaethu â hwy. Roedd yn fraint arbennig cael ennill fy ail gadair yn Eisteddfod Paradwys eleni.”
Trip – Dr Llion Pryderi Roberts
(gwylio ffilm ddi-sain o’r 1950au, sydd, o bosibl, yn cynnwys rhai aelodau o’m teulu)
Daw graean y degawdau
i brancio hyd y sgrin,
a throi’r prynhawn hirfelyn
mor frau â deilen grin.
Fe syllaf i’r wynebau
sy’n wên o rîl i rîl,
ond deil y camera i grynu
fel tae’r holl atgo’n chwil.
Ac er bod brith adnabod
yn lledu’r wên o hyd,
ni all holl ddawn technoleg
roi llais i’r chwerthin mud.