Prosiect iaith Gymraeg yn cael ei arddangos yn yr Eisteddfod
27 Gorffennaf 2016
Caiff prosiect arloesol gwerth £1.8m ar gyfer casglu miliynau o eiriau Cymraeg pob dydd ei arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae ymchwilwyr yn casglu 'lecsicon byw' drwy ganiatáu i gyfranwyr gofnodi ac uwchlwytho'r Gymraeg fel y’i defnyddir o ddydd i ddydd.
Mae’r casgliad o eiriau ac ymadroddion, sy’n amrywio o Gymraeg ffurfiol i Gymraeg naturiol, rhanbarthol, yn rhan o brosiect Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC), a arweinir gan Brifysgol Caerdydd.
Mae CorCenCC yn ceisio datblygu’r casgliad mawr cyntaf o eiriau Cymraeg wrth i’r eirfa esblygu, gan gynrychioli’r iaith fel y’i defnyddir gan bobl o ddydd i ddydd.
Bydd y prosiect yn defnyddio technoleg cymorth torfol (ar ffurf ap ffonau symudol) i gasglu data a gwahodd cyfraniadau gan siaradwyr Cymraeg o bob lefel a chefndir.
Mae CorCenCC yn brosiect sy'n canolbwyntio ar y gymuned, ac o'r cychwyn cyntaf bydd tîm y prosiect yn gofyn i bobl sy'n defnyddio, ymchwilio, dysgu, gweithio a byw drwy gyfrwng yr Gymraeg, i helpu gyda phenderfyniadau am gynnwys a strwythur y corpws.
Dywedodd Cydlynydd y Prosiect, Dr Dawn Knight, sy’n Uwch-ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae’r prosiect yn gam mawr ymlaen wrth inni geisio creu’r corpws mawr cyntaf sy’n fyw ac sy’n esblygu. Bydd hyn yn ein galluogi i gynrychioli’r iaith Gymraeg ar draws pob platfform cyfathrebu ar sail ieithwedd defnyddwyr cyffredin, cyfoes. Byddwn yn ymgysylltu â'r cyhoedd mewn sawl ffordd, gan ddefnyddio gwahanol fathau o dechnoleg newydd i wneud hynny.”
Mae'r prosiect yn dod ag amrywiaeth o gydweithwyr ynghyd gan gynnwys prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor a Chaerhirfryn; Llywodraeth Cymru; CBAC-WJEC; Cymraeg i Oedolion a Geiriadur y Gymraeg.
Mae CorCenCC wedi’i gefnogi gan lysgenhadon blaenllaw gan gynnwys y bardd Damian Walford Davies, y cerddor Cerys Matthews, y cyflwynydd teledu Nia Parry a’r dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens, a wnaed yn Gymrawd Anrhydeddus i Brifysgol Caerdydd yn ddiweddar.
Dywedodd Nia Parry: "Bydd CorCenCC yn llywio dyfodol addysgu a dysgu’r iaith Gymraeg. Bydd yn gyfle i werthfawrogi ein hiaith hynafol, farddonol, gyfoethog, arbennig ni. Byddwn yn dysgu am sut rydym yn strwythuro brawddegau, treigladau, geiriau sathredig, ieithwedd negeseuon testun ac ebost, sut rydym yn talfyrru, beth a ddywedwn a sut rydym yn ei ddweud.
"Bydd y corpws yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac yn fy marn i mae’r gwaith hwn o bwysigrwydd hanesyddol eithriadol, nid yn unig yn ieithyddol ond fel cofnod o’n hanfod ni fel cenedl a’n lle yn y byd."
Ychwanegodd Nigel Owens: "Bydd y corpws yn cynnwys enghreifftiau o’r Gymraeg ym mhob parth: o'r cae rygbi a’r stiwdio deledu, i areithiau gwleidyddol a gwerslyfrau academaidd. Bydd gan ddysgwyr, geiriadurwyr, darlledwyr a phob un ohonom sy'n defnyddio'r iaith bob dydd gofnod o’r iaith fel y’i defnyddir o ddydd i ddydd. Bydd hyn yn ein helpu i weld sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y Gymru sydd ohoni."
Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno’n anffurfiol ym mhabell Prifysgol Caerdydd am 11:00 ar 2 Awst, ac ym mhabell Prifysgol Abertawe am 11:00 ar 3 Awst.
Ariennir CorCenCC gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.