Llwyddiant i oedolion mewn addysg
26 Gorffennaf 2016
Mae cynllun arloesol y Brifysgol sy'n cynnig ffordd yn ôl mewn i addysg ar gyfer oedolion, wedi dathlu ei ail grŵp o raddedigion.
Mae Archwilio'r Gorffennol yn llwybr sydd wedi cael ei ddatblygu i helpu oedolion i wireddu eu huchelgais i astudio hanes, hanes yr henfyd, archaeoleg neu grefydd ar lefel gradd.
Eleni, graddiodd pump o'i fyfyrwyr gyda graddau mewn Archeoleg, Hanes Canoloesol a Hanes yr Henfyd, a Hanes.
Mae'r myfyrwyr, a ddechreuodd eu hastudiaethau ar y llwybr, wedi cwblhau rhwng pedair a chwe blynedd o addysg israddedig. Bydd nifer o'r grŵp hefyd yn dechrau graddau Meistr nes ymlaen eleni.
Dywedodd Cydlynydd y Llwybr Dr Paul Webster, Darlithydd mewn Hanes Canoloesol: "Mae pawb sy'n gysylltiedig ag Archwilio'r Gorffennol a'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd wrth eu bodd gyda llwyddiant y myfyrwyr hyn.
"Mae eu canlyniadau gradd ysbrydoledig yn deyrnged i'w gwaith caled a'u hymrwymiad ers iddynt ddychwelyd i astudio ar y llwybr. Mae pob un ohonynt wedi goresgyn rhwystrau sylweddol ac wedi ennill graddau ardderchog, gan brofi nad yw hi byth yn rhy hwyr i gymryd y cam hwnnw sy'n newid bywydau i addysg uwch. Dymunwn bob llwyddiant iddynt gyda'u hymdrechion yn y dyfodol. "
Caiff Llwybrau eu haddysgu a'u hasesu mewn ffyrdd tebyg i gyrsiau gradd israddedig y flwyddyn gyntaf.
Ni waeth beth fo'u cymwysterau blaenorol, mae myfyrwyr yn dechrau astudio'n rhan-amser am flwyddyn, gyda chyfweliad gwarantedig ar gyfer lle naill ai ar radd ran-amser neu amser llawn, ar ôl cwblhau'r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus.
Archwilio'r Gorffennol yw un o 10 llwybr sydd ar gael gan Isadran Addysg Barhaus a Phroffesiynol y Brifysgol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau Addysg Barhaus a Phroffesiynol.