Datganoli treth - y peryglon i gyllideb Cymru
26 Gorffennaf 2016
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dadlau y byddai'r dulliau a gellid eu hystyried gan y Trysorlys ar gyfer galluogi Cymru i godi ei threthi ei hun am y tro cyntaf, yn cael effaith andwyol ar sut yr ariennir gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Yn ôl yr awduron, pe byddai Treth Stamp wedi'i datganoli i Gymru yn ystod y degawd diwethaf, byddai'r gyllideb wedi wynebu toriadau oherwydd y gwahaniaethau amlwg yn amodau'r farchnad dai ledled y DU, sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Mae hyn er gwaethaf y twf yn sylfaen drethi Cymru dros yr un cyfnod.
Mae'r adroddiad yn cynnig y dylid eithrio marchnad eiddo Llundain a de-ddwyrain Lloegr wrth gyfrifo cytundeb cyllidebol Cymru yn y pen draw, i geisio lliniaru'r goblygiadau mwyaf eithafol a ddaw yn sgil datganoli Treth Stamp i Gymru.
O fis Ebrill 2018, bydd Treth Stamp gyffredinol y DU a'r Dreth Dirlewni yn cael eu 'diffodd' yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno dwy dreth ddatganoledig i'w disodli, sef y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, fydd yn rhan uniongyrchol o gyllideb Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, bydd effaith hyn yn y pen draw yn dibynnu ar sut bydd y grant bloc a roddir i Gymru yn newid o ganlyniad i ddatganoli'r trethi.
Ar ôl cyflwyno trethi newydd Cymru, bydd y Trysorlys yn gostwng grant bloc Cymru i ddigolledu Llywodraeth y DU am yr y refeniw na fydd yn ei derbyn mwyach. Bydd trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru ac EM y Drysorlys yn yr hydref ynglŷn â sut caiff hyn ei wneud.
Yn eu hadroddiad, mae'r awduron yn amlygu'r canlynol:
- Byddai pob un o'r pedwar dull o addasu'r grant bloc a ystyriwyd yn ystod y trafodaethau ariannol diweddar yn yr Alban, yn arwain at doriadau yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar ôl datganoli yn ôl pob tebyg.
- Gallai'r dull Didynnu Lefelau, sef y dull oedd orau gan y Trysorlys yn ystod y trafodaethau gyda'r Alban yn ôl pob sôn, yn arwain at bron £500 miliwn o doriadau bob blwyddyn ar ôl degawd o ddatganoli.
- Mae'r amcanestyniad negyddol hwn yn deillio o'r gwahaniaeth rhwng y farchnad dai yng Nghymru ag ardaloedd eraill y DU, sy'n golygu bod refeniw Treth Stamp yn tueddu i gynyddu'n llawer arafach yng Nghymru.
- Refeniw Treth Stamp o Lundain a de-ddwyrain Lloegr sydd i'w gyfrif am bron dwy ran o dair o holl refeniw'r DU ac mae hyn yn dylanwadu'n sylweddol ar dwf yn gyffredinol. Ffordd arall, a thecach o bosibl, o addasu'r Grant Bloc fyddai peidio â chynnwys refeniw o Lundain a de-ddwyrain Lloegr wrth wneud y cyfrifiadau mynegeion.
Mae'r adroddiad yn ystyried beth fyddai wedi digwydd pe byddai'r Dreth Stamp wedi'i datganoli dros y degawd diwethaf, a daw i'w amlwg y byddai cyllideb Llywodraeth Cymru wedi'i diogelu'n llawer gwell pe na byddai Llundain a de-ddwyrain Lloegr wedi'u cynnwys wrth gyfrifo'r addasiadau.
Dywedodd Ed Poole o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ac un o awduron yr adroddiad: "Ar ôl datganoli trethi, byddai newid faint sy'n cael ei roi i Gymru drwy'r grant bloc ar sail twf refeniw yng ngweddill y DU yn golygu y bydd gwahaniaethau dwfn yn amodau marchnad dai'r DU yn dylanwadu’n fawr ar Lywodraeth Cymru. Mae marchnad eiddo Llundain a de-ddwyrain Lloegr ar wahân i weddill y DU mewn nifer o ffyrdd, ac mae ffactorau rhyngwladol yn dylanwadu'n helaeth arno.
“Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddylanwad dros y ffactorau hyn. Ar ben hynny, mae natur unigryw'r farchnad eiddo yn Llundain wedi dod fwyfwy amlwg ers i'r DU bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
"Byddai eithrio refeniw Llundain a de-ddwyrain Lloegr wrth gyfrifo'r addasiad dal yn cymell Llywodraeth Cymru i dyfu'r sylfaen dreth yng Nghymru, ond ar sail targed mwy realistig a chyraeddadwy.”
Ychwanegodd Guto Ifan, sydd hefyd o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: "Roedd y cytundeb a gafwyd ar ôl trafodaethau Fframwaith Ariannol yr Alban yn golygu bydd yr holl drethi sydd wedi'u datganoli i'r Alban yn cael eu trin yn gyson ac yn union yr un modd.
“Fodd bynnag, nid yw hyn yn cydnabod y lefelau amrywiol o dwf tebygol a'r peryglon i Gymru sy'n gysylltiedig â phob treth gwahanol. Felly, dylai'r rhain gael eu hystyried ar wahân yn y trafodaethau a gynhelir cyn bo hir rhwng Llywodraeth Cymru a Thrysorlys EM.
“Ar ben hynny, mae gwahaniaethau economaidd a'r lefelau amrywiol o bwerau sydd wedi'u datganoli i'r Alban, yn golygu nad oes sicrwydd y bydd yr hyn a gytunwyd ar gyfer yr Alban am fod yn briodol i Gymru. Bydd angen i'r ffactorau hyn fod wedi'u cynnwys a'u hystyried wrth ddod i gau pen y mwdwl ar y gytundeb hollbwysig hwn ar gyfer Cymru.”