Effaith Brexit ar Gymru
25 Gorffennaf 2016
Mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn archwilio effaith cyfnod gwleidyddol ffrwydrol ar Gymru, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae’r wlad yn wynebu canlyniadau gwleidyddol nas gwelwyd o’r blaen yn dilyn refferendwm yr UE, cynlluniau i ad-drefnu datganoli Cymru ac etholiad Cynlluniad Cenedlaethol Cymru.
Bydd y canlyniadau’n cael eu trafod mewn nifer o ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar wleidyddiaeth fydd yn ategu gweithgareddau’r Brifysgol sy’n edrych ar yr iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth.
Mae'r pynciau yn cynnwys effeithiau Brexit ar Gymru, agweddau pobl ifanc at refferendwm yr UE ac effaith posibl datganoli trethi yng Nghymru.
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Nolydd y Castell, y Fenni, rhwng 29 Gorffennaf a 6 Awst ac mae gan y Brifysgol dros 50 o ddigwyddiadau gwahanol.
Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-ganghellor: “Rydym yn hynod o falch o fod yn Brifysgol yng Nghymru sy’n cyfrannu’n enfawr i’n gwlad yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn un o'r tlysau yng nghoron Cymru ac mae'n bleser i ni chwarae rhan fawr bob blwyddyn. Cofiwch ddod heibio i fwynhau ein sgyrsiau, trafodaethau, cyngherddau a ffilmiau.
“Mae wedi bod yn ychydig o fisoedd dramatig yn wleidyddol ac, ymysg ein digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant a’r Iaith Gymraeg, byddwn hefyd yn ceisio gwneud synnwyr o holl ystyr hyn i Gymru.”
Bydd yr Athro Richard Wyn Jones a'r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru'r Brifysgol, yn archwilio sut y gallai Cymru gael ei heffeithio gan bleidlais ddiweddar Brexit.
Byddan nhw’n cyflwyno eu barn ar y refferendwm dramatig a’i ddatblygiad ym Mhabell y Cymdeithasau 2 o 11:30 i 12:30 ar 3 Awst.
Bydd Dr Sioned Pearce, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yn cyflwyno ymchwil ar bobl ifanc a gwleidyddiaeth yng Nghymru gan gynnwys refferendwm yr UE, mewn digwyddiad ym mhabell Prifysgol Caerdydd ar 1 Awst o 14:00 -15:00.
Bydd hi’n siarad am faterion fel dewis pleidleisiwr, y nifer o bobl wnaeth bleidleisio, ymddiriedolaeth a ffynonellau’r cyfryngau a ddefnyddiwyd yn ystod yr ymgyrch.
Bydd Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn ymuno â’r Athro Jones i fynd i’r afael â phwnc arall sydd hefydd yn bwysig iawn, gan amlinellu’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer datganoli treth yng Nghymru mewn digwyddiad ym mhabell y Cymdeithasau 1 o 12:00 i 13:00 ddydd Gwener, 5 Awst.
Y tu allan i wleidyddiaeth, mae’r Brifysgol yr haf hwn yn dathlu gwaith sy’n troi ei ymchwil rhagorol yn gynhyrchion, gwasanaethau a chwmnïau ‘byd go iawn’ sy’n newid y ffordd mae Cymru’n gweithio.
Mae arloesi yn dwyn academyddion, myfyrwyr a phartneriaid o’r sector gyhoeddus a’r sector preifat ynghyd i feithrin cydweithredu newydd gyda gweddill y byd.
Mae Haf Arloesi, sy’n rhedeg tan ddechrau mis Hydref, yn rhoi goleuni ar amrywiaeth eang o ymchwil y Brifysgol.
Mae hyn yn cynnwys prosiect gwerth £1.8m sy’n cael ei yrru gan y gymuned, sy’n cynnwys prifysgolion eraill, a’i nod yw datblygu adnodd iaith Gymraeg 10m o eiriau.
Bydd CorCenCC,Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes - o fudd i athrawon, dysgwyr, cyfieithwyr, cyhoeddwyr, llunwyr polisi, datblygwyr technoleg iaith, academyddion ac eraill.
Gallwch glywed mwy am y prosiect hwn ym mhabell Prifysgol Caerdydd o 11:00 ar 2 Awst, ac ym mhabell Prifysgol Abertawe o 11:00 ar 3 Awst.
Mae Dr Rees yn astudio tafodieithoedd Cymraeg traddodiadol sydd ar fin diflannu yn yr ardal lle cynhelir yr Eisteddfod eleni.
Gyda chymorth dau arbenigwr uchel ei barch, bydd Dr Wyn Rees, hefyd yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng tafodieithoedd traddodiadol a recordiwyd yn ardal y Fenni, ag ardaloedd eraill y wlad.
Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys trafodaeth ar ddyfodol teledu yng Nghymru (13:00-14:00 ar 1 Awst) sy'n cynnwys panel o arbenigwyr o’r diwydiant ac arbenigwyr gwleidyddol.
Bydd pafiliwn y Brifysgol ar agor i ymwelwyr drwy gydol yr Eisteddfod gyda nifer o weithgareddau i’r teulu, ffilmiau, cerddoriaeth a lluniaeth.