Glaswellt gwyrdd y fro
21 Gorffennaf 2016
Yn ôl gwyddonwyr gallai glaswellt gardd ddod yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy rhad a glân.
Mae tîm o ymchwilwyr yn y DU, gan gynnwys arbenigwyr o Sefydliad Catalysis Prifysgol Caerdydd, wedi dangos bod modd datgloi symiau sylweddol o hydrogen o borfa peiswellt gyda chymorth golau’r haul a chatalydd rhad.
Dyma’r tro cyntaf i’r dull hwn gael ei arddangos a gallai arwain at ffordd gynaliadwy o gynhyrchu hydrogen, sydd â photensial enfawr yn y diwydiant ynni adnewyddadwy oherwydd ei gynnwys ynni uchel a’r ffaith nad yw’n rhyddhau nwyon gwenwynig neu dŷ gwydr pan gaiff ei losgi.
Dywedodd cydawdur yr astudiaeth, yr Athro Michael Bowker, o Sefydliad Catalysis Caerdydd: “Mae hon yn ffynhonnell ynni wirioneddol wyrdd.
“Caiff hydrogen ei ystyried yn fodd pwysig o gludo ynni yn y dyfodol wrth i’r byd symud o danwydd ffosil i borthiant adnewyddadwy, ac mae ein hymchwil wedi dangos y gallai hyd yn oed glaswellt gardd fod yn ffordd dda i gael gafael arno.”
Mae’r tîm, sydd hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Queen’s Belfast, wedi cyhoeddi eu canfyddiadau yng nghyfnodolyn y Gymdeithas Frenhinol Proceedings A.
Mae hydrogen ar gael mewn meintiau enfawr ar draws y byd mewn dŵr, hydrocarbonau a mater organig arall.
Hyd at nawr, yr her i ymchwilwyr fu dyfeisio ffyrdd o ddatgloi hydrogen o’r ffynonellau hyn mewn ffordd rad, effeithlon a chynaliadwy.
Un ffynhonnell addawol o hydrogen yw’r cyfansoddyn organig seliwlos, sy’n elfen allweddol mewn planhigion ac yn un o’r biopolymerau mwyaf toreithiog ar y Ddaear.
Yn yr astudiaeth bu’r tîm yn ymchwilio’r posibilrwydd o drosi seliwlos yn hydrogen gan ddefnyddio golau’r haul a chatalydd syml - sylwedd sy’n cyflymu adwaith cemegol heb gael ei ddefnyddio’n llawn.
Gelwir y broses hon yn ffotoailffurfio neu ffotocatalysis ac mae’n golygu bod golau’r haul yn ysgogi’r catalydd sydd yn trosi’r seliwlos a’r dŵr yn hydrogen.
Astudiodd yr ymchwilwyr effeithiolrwydd tri chatalydd yn seiliedig ar fetelau – Paladiwm, Aur a Nicel.
Roedd Nicel o ddiddordeb penodol i’r ymchwilwyr, o safbwynt ymarferol, gan ei fod yn fetel llawer mwy toreithiog ar y ddaear na’r metelau gwerthfawr, ac yn llai gwastraffus.
Yn y cylch cyntaf o arbrofion, cyfunodd yr ymchwilwyr y tri chatalydd gyda seliwlos mewn fflasg â gwaelod crwn gan amlygu’r gymysgedd i olau o lamp ddesg. Ar gyfnodau o 30 munud casglodd yr ymchwilwyr samplau nwy o’r gymysgedd a’u dadansoddi i weld faint o hydrogen oedd yn cael ei gynhyrchu.
I brofi cymwysiadau ymarferol yr adwaith hwn, ailadroddodd yr ymchwilwyr yr arbrawf gyda phorfa peiswellt, a gafwyd o ardd ddomestig.
Aeth yr Athro Michael Bowker yn ei flaen: “Hyd yn ddiweddar, nid yw cynhyrchu hydrogen o seliwlos drwy ffotocatalysis wedi’i astudio’n helaeth.
“Mae ein canlyniadau’n dangos bod modd cynhyrchu sypiau sylweddol o hydrogen drwy’r dull hwn gyda chymorth dipyn o olau’r haul a chatalydd rhad.
“Ymhellach, rydym ni wedi dangos effeithiolrwydd y broses gan ddefnyddio glaswellt go iawn o ardd. Hyd y gwyddom ni, dyma’r tro cyntaf i’r math hwn o fiomas crai gael ei ddefnyddio i gynhyrchu hydrogen yn y modd hwn. Mae hyn yn arwyddocaol gan ei fod yn osgoi’r angen i wahanu a phuro seliwlos o sampl, a all fod yn waith caled a chostus.”