Cwrs Haf yn denu mwy o ddysgwyr
20 Gorffennaf 2016
Mae Cwrs Haf Dwys Canolfan Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Caerdydd, wedi gweld cynnydd yn y nifer o ymrestriadau eleni, gyda dros 180 o ddysgwyr wedi cofrestru.
Dyma’r nifer fwyaf o ymrestriadau mae’r ganolfan wedi profi dros y blynyddoedd diwethaf sydd yn gydnabyddiaeth o gadernid a rhagoriaeth y rhaglen yma yng Nghaerdydd.
Mae’r cwrs yn denu dysgwyr o bedwar ban y byd ac eleni rhoddwyd pum bwrsariaeth, gwerth hyd at £2,000, i ddysgwyr o America, Awstralia, Hwngari, Gwlad Pwyl a Phatagonia. Ynghyd a’r bwrsariaethau rhyngwladol, rhoddwyd dwy fwrsariaeth gartref, i ddysgwyr o’r ardal leol.
Bwriad y Cwrs Haf yw galluogi dysgwyr i gwblhau cwrs Cymraeg llawn, sydd fel arfer yn cymryd naw mis neu fwy, o fewn pedair wythnos yn unig. Hefyd, mae yna hyblygrwydd mawr yn y ffordd mae dysgwyr yn dilyn y rhaglen. Mae'r cwrs wedi ei rannu i flociau o bythefnosau (hanner lefel wedi’i gyflawni mewn un pythefnos). Mae modd teilwra’r amser i siwtio amgylchiadau unigolion - a’i chyflawni dros bythefnos, mis, chwe wythnos neu wyth wythnos.
Cynhelir y dosbarthiadau ar amserlen sydd yn adlewyrchu oriau gwaith, rhwng 9.00am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Yn ogystal â’r dysgu, mae nifer o weithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol yn cael eu trefnu. Dyma gyfle i'r dysgwyr ar y cwrs ddod i’w hadnabod ei gilydd yn well, rhannu profiadau ac ymarfer eu sgiliau ieithyddol mewn sefyllfaoedd anffurfiol.