Ewch i’r prif gynnwys

Mewnweledigaethau a phrofiadau newydd yng Nghanada

19 Gorffennaf 2016

Golwg o gopa Mount Royal, Montreal
Golwg o gopa Mount Royal, Montreal

Mae myfyrwraig PhD, Sara Orwig, newydd ddychwelyd i Gaerdydd ar ôl treulio chwe wythnos ym Mhrifysgol McGill ym Montreal.

Noddwyd y daith gan y Cyngor Rhyngwladol dros Astudiaethau Canadaidd.

Derbyniodd Sara gefnogaeth gan yr Adran Iaith a Llenyddiaeth Ffrangeg ynghyd a’r Athro Catherine Leclerc, arbenigwr mewn amlieithrwydd llenyddol a chyfieithu llenyddol yn yr Adran Ffrangeg.

Yn ystod ei hamser yng Nghanada buodd Sara yn cyflawni cyfweliadau fel rhan o’i PhD. Teithiodd i Moncton, New Brunswick er mwyn cyfweld â’r awduron France Daigle a Jean Babineau, a Midland, Ontario i gwrdd â’r awdures Joëlle Roy.

Mae doethuriaeth Sara yn ymwneud â chymharu cyfnewid côd mewn llenyddiaeth Gymraeg, llenyddiaeth Ffrangeg-Canadaidd a llenyddiaeth Saesneg. Roedd yr ymweliad felly yn amhrisiadwy fel cyfle i gwrdd ag awduron nodedig sydd yn cyfnewid côd yn eu testunau, ac i fanteisio ar adnoddau llyfrgell McGill.

Ynghyd ag adnoddau McGill, manteisiodd Sara ar y cyfle i ymweld â’r Grande Bibliothèque ym Montreal sy’n rhan o Biblothèque et Archives nationales de Québec. Buodd hi hefyd yn cyflwyno i fyfyrwyr ôl-raddedig yn yr adran Iaith a Llenyddiaeth Ffrangeg, a chyfarfod ag aelodau o’r grŵp ymchwil Belonging, Identity, Language, Diversity – Langage, Identité, Diversité, Appartenance (BILD-LIDA) ym Mhrifysgol McGill, gan gyfrannu at eu blog.

Dywedodd Sara: “Dwi’n ddiolchgar i’r Cyngor Rhyngwladol dros Astudiaethau Canadaidd, Prifysgol McGill a’r Athro Leclerc am y cyfle a’r gefnogaeth.

“Roeddwn hefyd yn gwerthfawrogi’n fawr fod yr awduron wedi rhoi eu hamser er mwyn fy nghyfarfod a chyfrannu at fy ngwaith. Bydd y cyfweliadau yn helpu i ddeall pam a sut mae awduron yn penderfynu cyfnewid côd yn eu testunau.

“Tu hwnt i’r cyfweliadau a’r ymchwil wnes i, dwi wedi cael treulio amser yn yr ardaloedd sydd wedi ysbrydoli’r nofelau ac wedi cael deall eu cyd-destun yn well.  Roedd hi’n brofiad hyfryd i glywed pobl yn cyfnewid cod Ffrangeg-Saesneg o’m hamgylch i!”

Rhannu’r stori hon