Dathlu ar Ddiwrnod Graddio’r Ysgol
18 Gorffennaf 2016
Cynhaliwyd seremoni raddio Ysgol y Gymraeg yn Neuadd Dewi Sant yng nghanol y brifddinas ar 13 Gorffennaf 2016.
Eleni, roedd yr Ysgol yn dathlu llwyddiant 44 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Ymysg y graddedigion israddedig, derbyniodd 7 myfyriwr radd Dosbarth Cyntaf. Cyflwynwyd chwe myfyriwr ar gyfer gradd MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, pedwar ar gyfer MPhil ac un ar gyfer PhD.
Dilynwyd y seremoni gan dderbyniad ym Mhrif Adeilad y Brifysgol a chyflwynwyd Gwobr Goffa GJ Williams i ddau fyfyriwr israddedig. Gwobr yw hon er cof am yr ysgolhaig nodedig a fu’n darlithio ym Mhrifysgol Caerdydd am 36 o flynyddoedd ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Mae’n cydnabod cyraeddiadau academaidd a chanlyniadau gradd derfynol y myfyrwyr buddugol.
Morgan Owen a Steffan Bryn a ddaeth i’r brig eleni o garfan o fyfyrwyr rhagorol. Bu Steffan yn fyfyriwr brwdfrydig a phrysur yn ystod ei astudiaethau, gan dreulio dwy flynedd fel Swyddog y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Mae Morgan hefyd wedi bod yn fyfyriwr ymroddedig a ddaeth i’r Ysgol heb Lefel A yn y Gymraeg ond sydd yn gadael gyda Gradd Dosbarth Cyntaf a dyfodol disglair o’i flaen.
Dywedodd Yr Athro Sioned Davies, Pennaeth yr Ysgol: “Mae Steffan a Morgan yn gwbl haeddiannol o Wobr Goffa GJ Williams. Gweithiodd y ddau yn galed iawn trwy gydol eu hastudiaethau israddedig gan gyfrannu’n sylweddol hefyd at fywyd cymdeithasol a chymunedol yr Ysgol a’r Brifysgol.
“Roedd hi’n fraint cael cyflwyno’r gwobrau i’r ddau yn ystod ein derbyniad graddio, achlysur arbennig iawn nid yn unig i’r myfyrwyr a’u teuluoedd ond hefyd i ni fel Ysgol. Dymunwn bob llwyddiant i holl raddedigion 2016 ar gyfer y dyfodol ac edrychwn ymlaen at gadw mewn cysylltiad â chlywed am eu llwyddiannau.”
Mae nifer o raddedigion newydd yr Ysgol eisoes wedi derbyn swyddi neu ar fin ymgymryd ag astudiaethau pellach. Mae cyflogadwyedd yn hollbwysig i’r Ysgol ac mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 100% o fyfyrwyr yn gweithio llawn-amser neu yn dilyn astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio.