Dirprwy Ganghellor yn derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd
18 Gorffennaf 2016
Roedd Richard Roberts CBE OBE ymhlith y rhai a gafodd Ddoethuriaeth er Anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Llanbedr Pont Steffan yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd Mr Roberts ei fod yn hynod o falch o dderbyn y wobr, gan ychwanegu: "Cael eich anrhydeddu gan eich prifysgol yw'r anrhydedd mwyaf y gall unrhyw un ei gael."
Yn optometrydd hunangyflogedig, fe raddiodd o Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST) ym 1966 lle bu hefyd yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr. Aeth Mr Roberts ymlaen i ddarlithio yn Adran Optometreg UWIST, cyn bod yn Gadeirydd Cymdeithas Cynfyfyrwyr UWIST.
Ym 1998, cafodd OBE yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd, ac ym mis Gorffennaf 2000 cafodd ei benodi'n Gynghorydd Optometrig Ymgynghorol i'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn fwyaf diweddar, cafodd CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2011, ac yn 2012 cafodd Wobr Cyflawniad Oes gan y Cydffederasiwn Optegol.
Llongyfarchodd Mr Roberts holl raddedigion PCYDDS, gan ychwanegu: "Byddwn yn annog yr holl raddedigion i gynnal egwyddorion gonestrwydd a gofyn i chi ychwanegu gwerth at y gwaith a'r cyfraniadau y byddwch yn eu gwneud.
"Mae gennych y cyfle i ddylanwadu ar y gymdeithas yr ydych yn byw ynddi. Chi yw ceidwaid y dyfodol, ac mae gennych gyfleoedd gwych i ymateb i'r heriau a ddaw eich ffordd."
Roedd Mr Roberts yn Cadeirydd y Cyngor ac yn aelod o'r Llys o 1992 ac o'r Pwyllgor Strategaeth ac Adnoddau o 2000.