Cryfhau cydweithio â Tsieina
18 Gorffennaf 2016
Bydd myfyrwyr o Brifysgol Feddygol Tsieina (PFT) yn gallu elwa ar raglenni meistr Prifysgol Caerdydd cyn bo hir, mewn peirianneg meinweoedd a bioleg lafar, yn dilyn cytundeb a lofnodwyd y mis hwn gan Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Elizabeth Treasure, a'r Athro Deliang Wen, Llywydd PFT.
Bydd y cytundeb newydd yn galluogi myfyrwyr ôl-raddedig PFT i astudio'r cyrsiau gradd Meistr un flwyddyn, yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd, gan nad ydynt ar gael ar hyn o bryd yn PFT. Caiff y cyrsiau un flwyddyn eu hintegreiddio yng nghyrsiau meistr tair blynedd PFT.
Dywedodd yr Athro Bing Song o'r Ysgol Deintyddiaeth: "Rydym yn gyffrous iawn am y cytundeb newydd hwn gyda PFC ac edrychwn ymlaen at groesawu ymgeiswyr Tsieineaidd o'r radd flaenaf i gyrsiau blaengar megis ein gradd meistr mewn peirianneg meinweoedd – y cwrs cyntaf o'i fath yn y DU."
Mae gan y Brifysgol berthynas hirsefydlog â Tsieina. Mae 47 o gysylltiadau academaidd ffurfiol rhyngddynt yn ogystal â chytundebau partneriaeth strategol gyda phrifysgolion ar draws y wlad ar gyfer ymchwil ar y cyd a chyfnewid myfyrwyr.
Mae nifer cynyddol o gytundebau cyfnewid myfyrwyr ar y gweill gyda phrifysgolion partner Tsieineaidd, ac mae nifer y myfyrwyr sy’n teithio o Gaerdydd i Tsieina yn cynyddu.
Mae’r Brifysgol wedi bod mewn partneriaeth â Chyngor Ysgoloriaethau Tsieina ers nifer o flynyddoedd ac mae wedi helpu ysgolheigion i symud ymlaen o astudiaethau ôl-raddedig i uwch-swyddi academaidd.