Cynfyfyriwr cyfrwng Cymraeg o Brifysgol Caerdydd yn ennill gwobr nodedig
14 Gorffennaf 2016
Mae Catrin Howells, sydd newydd raddio gyda gradd yn Y Gyfraith a'r Gymraeg (LLB), o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd, wedi'i henwebu i dderbyn Gwobr newydd John Davies gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Catrin, sydd o Bonterwyd ger Aberystwyth, yw'r cyntaf i dderbyn y Wobr. Cafodd ei greu i goffau'r Hanesydd uchel ei barch, y diweddar Dr John Davies a hynny am y traethawd estynedig israddedig gorau a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Hanes Cymru.
Traethawd Catrin ar y teitl “A yw creu Awdurdodaeth Gyfreithiol ar wahân i Gymru bellach yn anorfod?” ddaeth i’r brig yn dilyn ystyriaeth gan banel dyfarnu oedd yn cynnwys tri hanesydd o ystod o gefndiroedd.
Dywedodd Catrin:
‘‘Bydd yn fraint anhygoel derbyn y wobr hon, ac mae ei hennill am y tro cyntaf yn anrhydedd fawr. Roedd y Dr John Davies yn flaengar iawn yn hanes a diwylliant Cymru ac rwy’n hapus fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydnabod ei gyfraniad. Ystyriaf hyn yn goron ar fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd ac edrychaf ymlaen at gael derbyn y wobr yn ogystal â chael cyfle i ddiolch i deulu’r Dr John Davies yn y brifwyl.’’
Ychwanegodd Dr Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Uwch Ddarlithydd yn Ysgol y Biowyoddrau, Prifysgol Caerdydd:
‘‘Hoffwn longyfarch Catrin yn wresog ar gael ei henwebu a’i dewis i dderbyn y wobr hon er cof am un o Gymry mwyaf dylanwadol yr hanner canrif ddiwethaf a gwron a oedd mor gefnogol o waith y Coleg. Hoffwn ddiolch i deulu Dr John Davies am eu cefnogaeth i’r gwobrau, ac wrth gwrs, i’r panel dyfarnu am eu gwaith. Edrychwn ymlaen at longyfarch Catrin yn ffurfiol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol fis nesaf.’’
Bydd Gwobr John Davies yn cael ei chyflwyno i Catrin Howells ar stondin y Coleg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol brynhawn Llun 1 Awst am 2 o’r gloch.