Ewch i’r prif gynnwys

Cynnal lluoedd wrth gefn y fyddin yn y dyfodol

7 Gorffennaf 2016

Marching

Mae angen gwella'r ffordd mae Lluoedd Wrth Gefn y Fyddin yn cael eu hyfforddi a'u cefnogi er mwyn cadw’n driw i’r targedau recriwtio a chadw staff, yn ôl canlyniadau astudiaeth ragarweiniol gan brifysgolion Caerdydd a Chaerwysg.

Dywed Dr Sergio Catignani, Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Strategol a Diogelwch o Sefydliad Strategaeth a Diogelwch Prifysgol Caerwysg, a Dr Victoria Basham, Uwch-ddarlithydd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, bod angen gwneud mwy os yw milwyr wrth gefn am gael eu defnyddio’n effeithiol i ymgyrraedd ag amcanion amddiffyn y genedl.

Ystyriodd yr ymchwil y ffactorau sy'n llywio ac sy’n dylanwadu ar ymrwymiad y milwyr wrth gefn gwirfoddol i wasanaethu’n Lluoedd Wrth Gefn Byddin Prydain, gan roi sylw arbennig i ddylanwad bywyd teuluol a phwysau gwaith arferol.

Er gwaethaf y cynnydd wrth weithredu rhaglen ddiwygio Lluoedd Wrth Gefn y Fyddin yn y Dyfodol 2020, mae eu hastudiaeth Cynnal Lluoedd Wrth Gefn y Fyddin yn y Dyfodol 2020: Asesu Ymrwymiad Sefydliadol yn y Lluoedd Wrth Gefn yn nodi bod angen newidiadau pellach er mwyn gwneud i’r holl filwyr wrth gefn deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn gwneud gwahaniaeth. Dylid cefnogi teuluoedd milwyr wrth gefn yn well hefyd wrth iddynt chwarae rôl gefnogol gynyddol bwysig yn y Fyddin.

Fel rhan o'r ymchwil, bu Dr Catignani a Dr Basham yn cyfweld swyddogion milwrol y gatrawd a milwyr wrth gefn.

Nododd y swyddogion milwrol nifer o anawsterau gan gynnwys: cyflawni nifer cynyddol yr ymrwymiadau hyfforddi, ymgysylltu o fewn amddiffyn a’r disgwyliad i gynorthwyo cymunedau, a gwneud hyn oll heb effeithio ar fodlonrwydd a pharodrwydd i weithredu; a gormod o bwyslais ar recriwtio sy’n effeithio’n negyddol ar gadw staff.

Dywedodd y milwyr wrth gefn a gymerodd ran yn yr astudiaeth fod yr hyfforddiant ychwanegol - a newidiwyd er mwyn osgoi ailadrodd a diflastod - nad yw'n ymgyrraedd â disgwyliadau llawer o’r recriwtiaid. Dywedodd un milwr wrth gefn: "mae'n debyg nad ydyw bob amser yn adlewyrchu’r cyffro a welwch ar hysbysebion teledu’r Fyddin Wrth Gefn pan welir y tanciau ac ati... y gwirionedd mae’n debyg, yn amlach na pheidio, yw eich bod mewn ystafell ddosbarth yn gwylio cyflwyniadau PowerPoint am y gyfraith ynghylch gwrthdaro arfog, neu’n ymarfer cywasgu'r frest ac ymarferion cymorth cyntaf eraill."

Dywedodd Dr Catignani: "Yr elfen bwysicaf sydd ar goll er mwyn cynnal y lluoedd wrth gefn hyd at 2020 a thu hwnt yw’r teulu. Mae'n dod yn fwyfwy anodd i filwyr wrth gefn wahanu eu rôl oddi wrth eu hymrwymiadau mawr eraill mewn bywyd, gan fod disgwyl iddynt fod mewn cysylltiad yn aml â’r Fyddin ar adegau pan nad ydynt yn gwasanaethu. Mae aelodau o'u teuluoedd wedi dweud wrthym bod yr angen am gyswllt parhaus wedi cael effaith sylweddol ar fywyd teuluol y rhai a gafodd eu cyfweld. Rydym yn sylweddoli bod y fyddin wedi gwneud llawer i gadw’r ddysgl yn wastad gyda chyflogwyr, ond mae angen gwneud rhagor o ymdrech i gefnogi teuluoedd milwyr wrth gefn, yn enwedig ar yr adegau pan nad ydynt yn gwasanaethu’r Fyddin."

Dywedodd Dr Basham: "Mae'n amlwg o'n cyfweliadau bod milwyr wrth gefn yn dibynnu ar eu teuluoedd, yn enwedig eu partneriaid, i ysgwyddo'r baich. Mae'r rhan fwyaf o'r partneriaid yn barod i wneud hynny oherwydd eu bod yn deall pa mor bwysig yw gwasanaethu wrth gefn i’w partneriaid. Gwaetha’r modd, gall gwasanaeth wrth gefn fod yn anodd ar gyplau a theuluoedd, gan ei fod yn amharu mor aml ar yr amser a gânt dreulio â’i gilydd.

Cyflwynodd yr ymchwilwyr eu canlyniadau dros dro i Aelodau Seneddol ar y Grŵp Seneddol Holl-bleidiol ar gyfer y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetson ar 5 Gorffennaf, 2016.

Bydd eu hadroddiad dros dro, a gaiff ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni, yn argymell bod angen cadw mewn cof mai dim ond yn eu hamser hamdden yn unig y gellir disgwyl i filwyr wrth gefn wasanaethu oni bai eu bod yn cael gorchmynion i ymfyddino.

Bydd hefyd yn argymell bod angen rhoi sylw pellach i amserlennu ac ystyried faint o hyfforddiant a gynigir er mwyn rhoi mwy o ystyriaeth i’r heriau sy’n wynebu milwyr wrth gefn wrth geisio rhannu eu hamser rhwng eu gwaith, eu teulu, eu bywydau personol a’u hymrwymiadau fel milwyr wrth gefn.

Mae'r prosiect yn rhan o Raglen Ymchwil Milwyr Wrth Gefn y Dyfodol a chaiff ei ariannu’n rhannol gan y Cyngor Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.