Manteision ac anfanteision gwybodaeth am ganser yr ofari
6 Gorffennaf 2016
Mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Meddygaeth wedi canfod y gall gwybodaeth ar-lein am ganser yr ofari, achosi cymaint o bryder â chysur i fenywod sydd fwyaf tebygol o ddatblygu’r clefyd.
I fenywod sydd fwy tebygol o gael canser yr ofari, ond sydd heb ddatblygu’r clefyd eto, cael llawdriniaeth i dynnu eu tiwbiau ffalopaidd a’r ofarïau yw’r ffordd fwyaf effeithiol o reoli’r peryglon. Fodd bynnag, wrth gyfweld y menywod oedd yn wynebu’r dewis hwn, daeth i’r amlwg bod y wybodaeth sydd ar gael ar-lein, yn aml yn cynyddu eu pryder a’u gofid yn hytrach na llywio eu penderfyniadau - gan awgrymu bod angen i weithwyr gofal iechyd ymchwil annibynnol arwain y gwaith ymchwil annibynnol a gynhelir gan gleifion.
"Weithiau, roedd gwybodaeth ar-lein yn helpu’r menywod hyn i deimlo’n fwy hyderus wrth siarad â gweithwyr iechyd proffesiynol am ganser yr ofari," meddai awdur yr astudiaeth, Dr Stephanie Smits o’r Ysgol Meddygaeth. "Dywedodd eraill ei bod wedi cael effaith negyddol gan wneud iddynt deimlo efallai mai osgoi gofyn am wybodaeth yn gyfan gwbl fyddai orau. Roedd y cleifion hyn yn meddwl bod y wybodaeth am ganser yr ofari yn cynnig manteision ac anfanteision fel ei gilydd.
"Nid yw’r holl wybodaeth ar y rhyngrwyd yn seiliedig ar dystiolaeth, felly mae angen i bobl wneud yn siŵr eu bod yn edrych ar wefannau credadwy."
Awgrymodd Dr Smits y dylai’r menywod sydd fwyaf mewn perygl o gael canser yr ofari, ofyn am arweiniad bob amser gan eu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac elusennau canser yr ofari ynglŷn â pha wefannau ac adnoddau sy'n ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. "Mae angen i feddygon roi help llaw wrth chwilio am wybodaeth ddibynadwy, a rheoli unrhyw bryder a achosir gan y wybodaeth," meddai.
Nododd bod gwefannau fel NHS Choices yn fan cychwyn da wrth ymchwilio’n annibynnol gan fod eu cynnwys yn cael eu monitro.
Mae diffyg ymwybyddiaeth cleifion am ganser yr ofari, gan gynnwys prinder gwybodaeth am effeithiolrwydd dewisiadau sgrinio, a dryswch ynghylch symptomau canser yr ofari, yn ategu’r ddadl hon.
Roedd canser yr ofari yn arfer cael ei ddisgrifio fel y 'clefyd cynnil’, ond mae’r farn hon wedi newid dros y blynyddoedd oherwydd y ddealltwriaeth gynyddol o’i symptomau.
Mae'n amlwg fod ymwybyddiaeth gynyddol o’r symptomau a gallu cael gafael ar wybodaeth ddibynadwy, yn hollbwysig er mwyn gwella deilliannau i fenywod sydd â chanser yr ofari.
Cyhoeddir yr astudiaeth - The double edged sword of ovarian cancer information for women at increased risk who have previously taken part in screening - yn ecancer.